Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydedd Blwyddyn Newydd y Frenhines i'r Athro

19 Ionawr 2021

Mae'r Athro Barbara Chadwick, cyn-Gyfarwyddwr Addysg a Myfyrwyr a chyd-Bennaeth Ysgol dros dro Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn MBE yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines am wasanaethau i Iechyd Deintyddol Pediatreg.

Croesawodd Prifysgol Caerdydd yr Athro Barbara Chadwick pan oedd yn aros i swydd godi yn arbenigo mewn periodontoleg ond yn hytrach penderfynodd ddilyn Deintyddiaeth Bediatreg. Treuliodd y 35 mlynedd nesaf ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n gyfrifol am ddatblygu un o'r adrannau Deintyddiaeth Bediatreg fwyaf adnabyddus ac uchel ei pharch yn y wlad.

Mae gwasanaethau'r Athro Chadwick i Ddeintyddiaeth ac Addysg yn mynd ymhell y tu hwnt i gyflawni'r swydd o ddydd i ddydd, a hynny mewn gofal clinigol a'i rolau addysgu. Mae hi wedi chwarae rhan ganolog wrth greu ymchwil ac mae hi wedi bod yn gyfrifol am gyfrannu nid yn unig at gynhyrchu ymchwil fel y Treialon NIHR o bwys, Seal or Varnish a FiCTION, ond mae hi wedi bod yn allweddol wrth arwain newid mewn Deintyddiaeth Bediatreg ledled y DU trwy roi ar waith ymchwil i’w gofal cleifion a'i haddysg i fyfyriwr.

Y tu hwnt i hynny, er 2003 mae'r Athro Chadwick wedi bod yn gyfrifol am helpu i ddarparu'r Arolygon Iechyd Deintyddol rheolaidd sy'n monitro iechyd deintyddol plant ac oedolion yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â chael eu defnyddio'n rheolaidd i lywio a monitro effeithiolrwydd polisi.

Ar ôl gweld 34 o ddosbarthiadau’n graddio o Brifysgol Caerdydd, dywedodd yr Athro Chadwick,  'Mae'n bleser ac yn anrhydedd enfawr imi dderbyn y dyfarniad hwn ac, a bod yn onest, does gen i ddim geiriau i gyfleu’r teimlad! Mae fy ngyrfa wedi bod yn siwrnai anhygoel ac ymhlith y cyflawniadau rwyf fwyaf balch ohonynt mae nifer y myfyrwyr deintyddol sydd wedi dewis Deintyddiaeth Bediatreg fel gyrfa, rhai sydd bellach yn gweithio fel Arbenigwyr ac Ymgynghorwyr ledled y DU; Fy ngwaddol go iawn i yw'r bobl sy’n dod ar fy ôl. '

Dywedodd yr Athro Nicola Innes, Pennaeth Ysgol, yr Ysgol Deintyddiaeth, 'Y pethau sydd bob amser yn sefyll allan am yr Athro Chadwick, ym mha bynnag swyddogaeth, yw ei disgleirdeb di-ball, ei gallu i edrych ymhell y tu hwnt i’r presennol a'i ffraethineb miniog. Nid yw hi erioed wedi ystyried ei hun yn ddylanwadol ac mae bob amser wedi dweud mai dim ond cogen fach oedd hi mewn timau cadarn ond byddwn yn anghytuno a dweud bod yr hygrededd proffesiynol sydd gan yr Athro Chadwick a hynny dros yrfa sydd wedi rhychwantu pob agwedd ar y byd academaidd o addysgu, gweinyddiaeth ymchwil a chefnogaeth ddi-ffael i gydweithwyr llai profiadol, wedi troi’r cyfan yn effaith enfawr sy'n mynd y tu hwnt i'r gwaddol rhyfeddol a adawodd ar ei hôl yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd a Deintyddiaeth Bediatreg yn y DU. Pleser o’r mwyaf yw ei gweld yn derbyn y gydnabyddiaeth hon ohoni hi a’i gwaith caled. '

I ddarganfod mwy am Restr Anrhydeddau a Gwobrau'r Frenhines ewch i https://www.awardsintelligence.co.uk/.

Rhannu’r stori hon