Estyn prosiect WEWASH i barhau i fonitro lefelau COVID-19 mewn dŵr gwastraff ledled Cymru
19 Ionawr 2021
Bydd y tîm rhyngddisgyblaeth y tu ôl i brosiect WEWASH (ein tîm rhyngddisgyblaeth ni) yn parhau i samplo a phrofi dŵr gwastraff er mwyn amcangyfrif digwyddiad y feirws yng Nghymru.
Mae prosiect Dadansoddi a Chadw Gwyliadwraeth ar Ddŵr Gwastraff Amgylcheddol Cymru yer Iechyd (WEWASH), dan arweiniad Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Dŵr Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cael ei estyn am dri mis arall er mwyn parhau i fonitro lefelau o COVID-19 mewn dŵr gwastraff ledled Cymru.
Yn ôl yr Athro Davey Jones, o Ysgol y Gwyddorau Naturiol, Bangor: ‘Bydd estyn cyllid y rhaglen yn gyfle i’w hehangu. Yn y tymor hwy, bydd monitro’n parhau’n hanfodol wrth i’r haint firaol newid yn y pen draw i fod yn endemig yn hytrach na phandemig’.
Croesawodd Andy Weightman, Athro Microfioleg a Phennaeth yr Is-adran honno yn Ysgol Biowyddorau Caerdydd, yr estyniad i’r cyllid ar gyfer “trefniant cydweithio gwych rhwng sefydliadau yng Nghymru, y Llywodraeth a’r diwydiant dŵr, gan symud ein gwaith ymchwil ymlaen at sefydlu monitro SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff, a helpu i wrthweithio lledaeniad y feirws yn y dyfodol yng Nghymru”. Bydd yr estyniad yn golygu bod modd i ni gyfnerthu’r gwaith a chreu sylfaen gadarn ar gyfer cadw gwyliadwriaeth amgylcheddol er iechyd ar draws y Genedl”.
Sefydlodd cyfnod cyntaf y prosiect y system fonitro, y protocolau a’r llifoedd gwaith. Trwy samplo a phrofi’n barhaus, darparodd y tîm system rybudd cynnar ar gyfer cynnydd yn yr achosion o’r feirws. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i asesu effeithlonrwydd cyfnod clo byr Cymru ym mis Hydref, lle lleihawyd nifer yr achosion o’r feirws ar y cychwyn, ond gyda chynnydd sydyn yn nifer yr achosion yn dilyn wedi’r ymyrraeth. Canfu’r canlyniadau cychwynnol hefyd arwydd o gyfnodedd ar y penwythnos mewn lleoliadau fel Rhyl, oedd yn dangos y gallai twristiaeth gynyddu’r llwyth SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff. Mae gwaith ymchwil pellach yn digwydd ar hyn o bryd i asesu’r gwahaniaethau rhwng samplau a gasglwyd yn ystod yr wythnos, sy’n cynrychioli’r boblogaeth leol, a’r rhai a gasglwyd dros y penwythnos, oedd yn cynnwys mewnlifiad o dwristiaid.
Bu’r prosiect yn rhoi sylw arbennig i achosion o COVID-19 yn y neuaddau preswyl ym Mhrifysgol Bangor. Trwy ganfod y feirws yn gynnar mewn lleoliad preswyl penodol i fyfyrwyr y llynedd, roedd modd i’r Brifysgol weithredu’n gyflym i gyfyngu ar ledaeniad y feirws ar y campws.
Ers hynny mae defnyddio epidemioleg seiliedig ar ddŵr i olrhain ymddangosiad a lledaeniad Covid-19 yng Nghymru wedi arwain at sefydlu rhaglen fonitro genedlaethol. Bu Tîm WEWASH yn ymwneud â’r profion torfol yn Lerpwl, gan ehangu arbenigedd Cymreig y tu hwnt i Gymru.
Yn ôl yr Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: ‘Mae llwyddiant y tîm Cymru-gyfan hwn i sicrhau’r estyniad yn tystio i bŵer dod ag arbenigwyr ynghyd o wahanol ddisgyblaethau i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol mor gymhleth. Mae hefyd yn dangos gwerth posibl cadw gwyliadwriaeth ar ddŵr a dŵr gwastraff i Gymru.'
Gan adeiladu ar lwyddiant partneriaethau WEWASH, llwyddodd y Dr Kata Farkas o Brifysgol Bangor a’r Athro Andrew Weightman o Brifysgol Caerdydd i sicrhau cyllid ychwanegol i edrych ar oroesiad feirws SARS-CoV-2 yn yr amgylchedd, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Lerpwl ac Ysgol Meddygaeth Drofannol Lerpwl. Ar y cyd, byddan nhw’n datblygu technegau canfod cyflym ac yn darparu gwybodaeth hanfodol am symudiad feirysau yn yr amgylchedd.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect WEWASH dilynwch @WEWASH3 ar Twitter.