Arbenigwr yn ymuno â'r Tasglu Ynni Cerbydau Trydan
18 Ionawr 2021
Mae arbenigwr blaenllaw o Brifysgol Caerdydd wedi ymuno â gweithgor yn rhan o Dasglu Ynni Cerbydau Trydan (EVET) Llywodraeth y DU.
Cafodd yr Athro Liana Cipcigan ei dewis i ymuno â WG1 - grŵp sydd wedi ymrwymo i gefnogi cyflawniad seilwaith gwefru Cerbydau Trydan (EV) y DU.
Yr arbenigwr trafnidiaeth gynaliadwy o'r Ysgol Peirianneg yw'r unig aelod academaidd o'r grŵp, sydd ag 18 aelod, gan gynnwys cynrychiolwyr o BEIS, OLEV, y Grid Cenedlaethol, UKPN, Energy Systems Catapult, LowCVP, Grŵp Trafnidiaeth Trefol, diwydiant ac awdurdodau lleol
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy newis i ymuno â WG1 fel cynghorydd arbenigol,” meddai’r Athro Cipcigan.
"Cafodd EVET ei sefydlu i ddiffinio'r cyfrifoldeb, y canllawiau a'r adnoddau sy'n bodoli ac sydd eu hangen i gefnogi cyrff cyhoeddus a sefydliadau preifat i ddarparu, gweithredu, a chynnal seilwaith gwefru Cerbydau Trydan cyhoeddus yn rhan o system ynni integredig.
"Rydym bellach yn dechrau ar ail gam y gwaith i gefnogi a monitro cynnydd y cynigion EVET gwreiddiol a'u trosi i mewn i waith."
Cafodd y Tasglu Ynni Cerbydau Trydan (EVET) ei ffurfio ar gais y Llywodraeth er mwyn cyflwyno awgrymiadau i'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau bod system ynni Prydain yn barod ac yn gallu hwyluso ac manteisio ar y nifer fawr o bobl sy'n defnyddio cerbydau trydan.
Yr Athro Liana Cipcigan yw arweinydd y thema ymchwil Trafnidiaeth Gynaliadwy yn Ysgol Peirianneg Caerdydd, ac arweinydd Canolfan Ragoriaeth Cerbydau Trydan, sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr y Brifysgol er mwyn ymchwilio a helpu i ddatrys y rhwystrau o ran cyflwyno cerbydau trydan yn fwy eang.
Mae'n arwain Rhwydwaith+ “Decarbonising Transport through Electrification (DTE), A whole system approach” EPSRC gwerth £1 miliwn https://dte.network/.
Yn rhan o'r hwb Torri Carbon, dyma'r unig rwydwaith sy'n edrych ar drydaneiddio trafnidiaeth.
"Yn Rhwydwaith DTE+, rydym yn chwilio am ystod o bartneriaid sector preifat, cyhoeddus a thrydydd sector all ein helpu i gefnogi a chyflawni ein targed ac uchelgais, ac yn eu gwahodd i gysylltu â ni," meddai'r Athro Cipcigan, sy'n gweithio'n agos gydag Adran Drafnidiaeth y DU i adrodd ar gynnydd drwy'r Rhwydwaith DTE+.
Mae gan yr Athro Cipcigan enw da fel cynghorydd polisi ac mae wedi rhoi cyngor a thystiolaeth arbenigol i ystod o gyrff gan gynnwys Tŷ'r Arglwyddi, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru.