Effeithiau economaidd byd-eang COVID-19
19 Tachwedd 2020
Effeithiau COVID-19 ar yr economi fyd-eang oedd ffocws y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Fusnes Caerdydd.
Dechreuodd Dr Wojtek Paczos, Darlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd, y sesiwn drwy gyflwyno ei sleid olaf yn gyntaf - ffordd o oresgyn anallu i gyflwyno sgyrsiau fel y rhain o fewn y terfyn amser a bennwyd.
“Os gofynnwch i fy myfyrwyr, byddan nhw'n dweud wrthych ei bod hi'n amhosib i mi orffen o fewn hanner awr pan fyddaf yn dechrau siarad,” meddai.
Esboniodd y byddai'n cyflwyno pedwar prif bwynt yn ystod y sesiwn:
- Mae strwythur yr economi a sut mae'r boblogaeth yn byw yn bwysig ar gyfer lledaeniad pandemig COVID-19 ac ar gyfer yr adferiad.
- Bydd yr adferiad ar siâp ail isradd ben i waered, sy'n golygu ar ôl cwymp mawr bydd yn ymadfer yn gyflym iawn i ddechrau ond yn fuan bydd yn gwastatáu.
- Ni fydd proses globaleiddio'n troi'n ôl nac yn stopio.
- Newidiadau mewn polisi economaidd gan gynnwys lefelau uwch o ddyled gyhoeddus, marchnadoedd llafur mwy rheoledig, trethi uwch a mwy o ofal iechyd cyhoeddus wedi'i ariannu.
Ag yntau wedi cyflwyno ei gasgliadau, trodd Dr Paczos yn ôl at ddechrau ei gyflwyniad gan osod y sesiwn yng nghyd-destun ehangach ei waith ar effaith economaidd pandemig COVID-19, yn gyntaf yn y cyfryngau Pwylaidd a hefyd ar flogiau'r LSE ac Ysgol Busnes Caerdydd.
Un o'r cyhoeddiadau mwyaf nodedig oedd cynllun pedwar cam ar gyfer adferiad economaidd yn dilyn COVID-19 yng Ngwlad Pwyl a gyd-awdurwyd gan Dr Paczos a Dr Pawel Bukowski.
Esboniodd Dr Paczos y byddai'r sesiwn heddiw'n canolbwyntio ar gam pedwar y prosiect - y normal newydd - lle mae casgliadau'n dechrau cael eu tynnu am effaith y pandemig gyda newidiadau strwythurol a pholisïau economaidd newydd yn cael eu rhoi ar waith.
Gan grynhoi'r hyn a ddigwyddodd yn union i'r economi yn ystod y pandemig, dywedodd Dr Paczos: “Mae cyfnodau clo'n creu dirwasgiadau. Mae hyn yn anochel, ac yn fwyaf pwysig, mae'n bwrpasol...”
Mae gweithredu mesurau fel hyn yn creu effeithiau negyddol ar gynnyrch a chyflenwadau, eglurodd Dr Paczos. Mae'n rhagweld mai cost rhoi'r economi i gysgu fel hyn am dri mis fydd tua 10% o'r GDP.
Gan symud ymlaen, dangosodd sut mae pandemig COVID-19 yn cymharu â'r argyfwng ariannol yn 2007/8.
Esboniodd Dr Paczos fod y math o aflonyddu'n wahanol yn yr argyfwng ariannol fel yr oedd cyflymder dechrau'r argyfwng hefyd. Effeithiwyd ar wahanol sectorau hefyd ac, yn hollbwysig, dadreoleiddiwyd system ariannol y DU a'i sbarduno i weithredu fel mwyhäwr yn 2007/8.
Yn olaf, llymder ariannol oedd yr ymateb i'r argyfwng ariannol, ond yn sgil COVID-19 cafwyd ehangu cyllidol.
Gan archwilio'r data hyn ar argyfwng COVID-19 o amrywiol ffynonellau*, cymharodd Dr Paczos yr effaith yn y DU, Gwlad Pwyl a Sbaen, gan gynnwys:
- y gwahaniaethau o ran twf GDP a diweithdra yn flaenorol
- dwysedd a chrynodiad y boblogaeth yn yr un cenhedloedd
- ymateb y Llywodraeth
- adferiad.
Cyn derbyn cwestiynau drwy'r Cadeirydd, yr Athro Huw Dixon, Pennaeth yr Adran Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd, trafododd Dr Paczos yr hyn a elwir yn normal newydd.
Amlinellodd newidiadau mewn rheoleiddio a dyled gyhoeddus a fydd yn nodweddu ein bywydau a'n bywoliaeth yn y dyfodol agos. Ac i gloi amlygodd rai pethau cadarnhaol posib.
Dywedodd: “ Mae masnach yn ymadfer yn gynt ar ôl COVID nag y gwnaeth ar ôl yr Argyfwng Ariannol yn 2007/08. Felly, dwyf i ddim yn disgwyl y bydd globaleiddio yn gwyrdroi, yn arafu nac yn stopio.
“Fodd bynnag, bydd pethau’n newid.” Ac yn enwedig ym maes gofal iechyd, pwysleisiodd Dr Paczos.
“Mae costau gofal iechyd yn fuddsoddiad yn nyfodol yr economi. A phe baem ni wedi buddsoddi cyn y pandemig, efallai y gallem ni fod wedi defnyddio mesurau economaidd llai llym fel na fyddai dirwasgiad yn gorfod digwydd i achub bywydau.”
Rhagor o wybodaeth am ymchwil Dr Wojtek Paczos ar COVID-19.
Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.
Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.
Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.
* Roedd ffynonellau Dr Paczos yn cynnwys:
Centre for Budget and Policy Priorities, 2020
Coronavirus Government Response Tracker, Prifysgol Rhydychen, 2020
Eurostat, Mai 2020,
Federal Reserve Economic Data, St. Louis Fed, 2020
Our World in Data 2020, Prifysgol Rhydychen, 2020
Socioeconomic Data and Applications Centre 2020
World Economic Outlook, International Monetary Fund, Hydref 2019, Ebrill 2019, Mehefin 2019