Ewch i’r prif gynnwys

Llyfr arobryn yn wobr am y marciau uchaf

12 Ionawr 2021

Picture of young male graduate wearing jeans and a jumper holding a copy of the book he won in front of him
Daniel Gillen

Mae Daniel Gillen, a gwblhaodd MSc Trafnidiaeth a Chynllunio yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ddiwedd 2020, wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei berfformiad academaidd rhagorol.

Cadarnhawyd mai Daniel gyflawnodd y marc uchaf am yr elfen a addysgir yn y rhaglen Meistr, gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Dr Dimitris Potoglou yn canmol Daniel am ei waith caled a'i ymrwymiad i faes cyffrous trafnidiaeth a chynllunio.

Cafodd Daniel gopi o lyfr arobryn yr Athro Emeritws Huw Williams, Forecasting Urban Travel Past, Present and Future, yn rhodd. Cyd-awdurwyd y gyfrol gyda'r Athro David Boyce o Brifysgol Illinois yn Chicago, ac enillodd Wobr Goffa William Alonso am Waith Arloesol mewn Gwyddoniaeth Ranbarthol.

Dywedodd Dr Potoglou: "Hoffwn ddiolch i'r Athro Williams am ei haelioni'n rhoi copi o'i lyfr diffiniol uchel ei fri - cyfeirlyfr allweddol i bob ymchwilydd ac ymarferwr teithio - unwaith eto'n wobr. Gwerthfawrogir yn fawr ei gefnogaeth barhaus i'r Ysgol, ein gwaith, ac i'n myfyrwyr eithriadol."

Roedd Daniel yn fyfyriwr israddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, gan raddio gyda BSc mewn Daearyddiaeth Ddynol yn 2019. Dyfarnwyd bwrsariaeth Cronfa Ffordd Rees Jeffreys iddo i gwblhau ei MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio, un o brif raglenni'r Ysgol.

Wrth sgwrsio gyda Daniel yn ddiweddar, bu'n edrych yn ôl ar ei astudiaethau academaidd a'i lwyddiant: “Mwynheais i’r cwrs Meistr Trafnidiaeth a Chynllunio yn fawr, ac mae wedi sicrhau'r sgiliau a'r wybodaeth i fi sy’n ofynnol i gael effaith yn y gweithle er gwaethaf y newidiadau a ddaeth yn sgil dysgu o bell.

"Galluogodd y sgiliau a'r gefnogaeth a gefais fi i lunio traethawd hir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caint yn edrych ar fetrigau perfformiad amseroedd teithiau bws i helpu i wneud penderfyniadau ynghylch dyrannu adnoddau. Fy uchelgais wrth symud ymlaen yw adeiladu ar fy ngradd i gyfrannu ymhellach i gynorthwyo gyda chynllunio a datblygu polisi trafnidiaeth y DU; sector sydd wedi tyfu o ran arwyddocâd oherwydd yr heriau polisi sy'n ymddangos, yn gysylltiedig â Newid Hinsawdd a Covid. "

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.