Covid-19 - Caerdydd yn ennill £1m ar gyfer ymchwil Sêr Cymru
12 Ionawr 2021

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill £1m mewn grantiau ymchwil Sêr Cymru i fynd i’r afael â heriau Covid-19.
Mae 14 gwobr gan Lywodraeth Cymru yn rhychwantu tri choleg y Brifysgol ac yn canolbwyntio ar ystod o atebion - o ddefnyddio catalysis newydd ar gyfer diheintio arwynebau i barhad dysgu digidol yng Nghymru.
Mae'r gwobrau mwyaf yn cynnwys cyllid i archwilio technolegau newydd ar gyfer profion-pwynt-gofal genetig ar gyfer SARS-CoV-2 a gweithio i ddatblygu pilenni hidlo firysau actif.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Mae prifysgolion Cymru wedi bod ar flaen y gad yn yr ymateb i Covid-19, gan ddatblygu atebion i’r llu o heriau y mae’r pandemig wedi’u cyflwyno. Mae prosiectau Prifysgol Caerdydd yn seiliedig ar arbenigedd ar draws disgyblaethau sbectrwm eang, o firoleg ac imiwnoleg i ddiagnosteg a gwyddoniaeth ymddygiad, gan gynnig potensial gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn firws.”
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Bydd cyllid trwy alwad Sêr Cymru - Mynd i’r Afael â COVID-19 yn caniatáu i ymchwilwyr ddatblygu cynigion newydd a allai gyfrannu at, neu hybu datblygiad ymchwil sy’n effeithio ar COVID-19, gan osod y sylfeini ar gyfer cynigion mwy i ffrydiau cyllido eraill.”
Mae'r gwobrau i gyd ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg fel a ganlyn:
Rhannu’r stori hon
Rydym yn monitro'r sefyllfa'n ofalus er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein staff a myfyrwyr.