Grant Clodfawr i’r Athro Aseem Inam ar gyfer Ymchwil Arweiniol ar Drefoli
11 Ionawr 2021
Dyfarnwyd Grant clodfawr Cynllun Rhwydweithio Ymchwil Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn y DU i'r Athro Aseem Inam, Cadeirydd Dylunio Trefol Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd, i archwilio ffyrdd o ddylunio dinasoedd mewn ffyrdd radical o ddemocrataidd.
Bydd yr Athro Inam yn cydweithredu ag ysgolheigion o fri ym maes trefoli o Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Sheffield yn y DU, Prifysgol Texas yn Austin yn yr Unol Daleithiau, Prifysgol Newcastle yn Awstralia, a Sefydliad Aneddiadau Dynol India yn India. Bydd y tîm hefyd yn gweithio gyda sefydliadau trefol a llawr gwlad blaengar sy'n dylunio'r parth cyhoeddus mewn ffyrdd hynod o arloesol yn Bengaluru, Cali, Cape Town, Jakarta, Phnom Penh, a Sao Paulo.
Bydd y Rhwydwaith Ymchwil "Dylunio Parthau Cyhoeddus/Designing Publics" a ariennir gan AHRC yn mynd i'r afael â'r diffyg dealltwriaeth systematig ynghylch sut mae parthau cyhoeddus yn cael eu dylunio a hynny trwy brosesau cynhyrchu gofodol yn y parth cyhoeddus, yn arbennig trwy ddefnyddio strategaethau anffurfiol dinasoedd y de byd-eang. Mae dinasoedd ymhlith creadigaethau mwyaf dynoliaeth, a gellir dadlau mai'r parth cyhoeddus yw eu hagwedd fwyaf arwyddocaol. Agwedd rymusaf y parth cyhoeddus yw ei allu i gynhyrchu [h.y. "dylunio"] parthau cyhoeddus yn fwriadol ac yn greadigol trwy'r broses o'i wneud [h.y. "cynhyrchu"].
Bydd y Rhwydwaith Ymchwil yn tynnu mewnwelediadau o ddadansoddiadau astudiaethau achos o sawl math o strategaethau anffurfiol ar gyfer cynhyrchu'r parth cyhoeddus yn ninasoedd y de byd-eang, trwy roi sylw manwl i fanylion cyd-destunau gwahanol a phatrymau cyffredinol sy'n dod i'r amlwg ar eu traws. Yr hyn y mae hyn yn ei awgrymu ar gyfer dylunio dyfodol y parth cyhoeddus yw bod llawer mwy o le mewn gwirionedd i greadigrwydd nag y gallwn ddychmygu sy’n bosibl ar hyn o bryd, sy'n codi o'r ffaith bod pob traddodiad cyfredol wedi'i ddyfeisio o'r blaen fel ymateb creadigol i amodau penodol ei gyfnod.
Felly, mae trefolwyr ar draws y sbectrwm - o weithwyr proffesiynol dylunio i ymgyrchwyr artistaidd i ddinasyddion cyffredin - bob amser yn meddu ar y posibilrwydd radical o ddylunio traddodiadau newydd a thrawsnewidiol ar gyfer y parth cyhoeddus, ac yn wir ar gyfer dinasoedd. Dyma'r mathau o ddulliau a allai drawsnewid y ffordd caiff dinasoedd eu dylunio a fydd yn deillio o waith y rhwydwaith.