Ewch i’r prif gynnwys

PhD Insights: Deall sut mae microblastig yn cael ei gludo a beth yw ei dynged mewn amgylcheddau dŵr croyw

11 Ionawr 2021

Smallplastics

Mae’r myfyriwr PhD James Lofty yn defnyddio egwyddorion hydroddeinameg a chludo gwaddodion i ddeall tynged microblastig mewn systemau dyfrol.

Mae llygredd microblastig (plastig maint llai na 5mm) wedi creu pryderon byd-eang yng nghyswllt ei ddosbarthiad eang, ei grynodiad a’i ganlyniadau amgylcheddol yn yr amgylchedd dyfrol. Er yr amcangyfrifir bod afonydd yn cyflwyno cymaint ag 80% o gyfanswm y llwyth llygredd plastig i gefnforoedd y byd, cymharol ychydig yw’r astudiaethau a wnaed ar lygredd microblastig yn yr amgylchedd dŵr croyw (Horton et al., 2017).

Mae cludo llygredd microblastig a’i dynged mewn cyrff dŵr croyw yn anhysbys i raddau helaeth oherwydd natur ddeinamig microblastig a chymhlethdod ei ryngweithio â gronynnau gwaddodion eraill a chynnwrf yn y llif. Trwy ddefnyddio gwybodaeth am hydroddeinameg, cludo gwaddodion a gwyddor yr amgylchedd,  gall disgyblaethau helpu i ddatblygu darlun llawnach o lwybrau llygredd microblastig mewn amgylcheddau dyfrol.

Cychwynnodd James Lofty ei PhD yn yr Ysgol Peirianneg ym mis Hydref 2020. Mae ei brosiect, sy’n cael ei oruchwylio ar y cyd gan Dr Catherine Wilson a Dr Pablo Ouro, yn ceisio deall yn well dynged a symudiad microblastig mewn systemau dyfrol. Mae hynny’n cynnwys adnabod priodweddau ffisegol a mecanweithiau seiliedig ar ddeinameg hylifol, sy’n rheoli ymddygiad a chludiant gronynnau microblastig. Bydd deall y prosesau hyn yn helpu i ddatblygu modelau rhifyddol a fydd yn amcangyfrif symudiad gronynnau microblastig mewn afonydd ac yn llywio polisïau amgylcheddol i’r dyfodol, gyda’r nod o leihau’r ffrwd microblastig yn yr amgylchedd.

River Taff

Drwy ddefnyddio cafnau sianel agored, nod James yw ymchwilio i ymddygiad microblastig o dan wahanol baramedrau amgylcheddol megis amrywio’r llif, is-haenau gwely’r afon a dwysedd llystyfiant. Bydd ei ymchwil yn helpu i ddatblygu egwyddorion sylfaenol a mecanweithiau ar gyfer symudiad microblastig yng ngholofn ddŵr a gwaddod yr afon.

Dywed James "Mae gwybodaeth fanwl am gludo microblastig a’i dynged yn ein hamgylchedd dyfrol yn hanfodol i ddatblygu darlun byd-eang o lygredd microblastig, deall y risg ecolegol gysylltiedig, a rhoi polisi amgylcheddol effeithiol ar waith i leihau llygredd microblastig yn ein hecosystemau dyfrol bregus."

Yn ystod ei PhD byddai James yn hoffi cymhwyso’r wybodaeth a gafwyd mewn arbrofion yn y labordy i arbrofion yn y maes er mwyn gwerthuso’u goblygiadau mewn amgylchedd byd go iawn.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect ymchwil James, cysylltwch ag ef ar loftyj@cardiff.ac.uk neu trwy Twitter neu Linkedln.

Cyfeiriad:

Horton, Alice A, Alexander Walton, David J Spurgeon, Elma Lahive, a Claus Svendsen. ‘Microplastics in Freshwater and Terrestrial Environments: Evaluating the Current Understanding to Identify the Knowledge Gaps and Future Research Priorities’. Science of the Total Environment 586 (2017): 127–41.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.