Ewch i’r prif gynnwys

Te ‘lles’ Cymru’n cyrraedd yn ystod y cyfnod clo

8 Ionawr 2021

Wellness tea

Mae'r llwyth cyntaf o de gwyrdd llesol newydd wedi'i gymysgu â mêl Cymreig pur a phlanhigion a nodwyd yn wyddonol wedi cyrraedd Cymru.

Mae Te Welsh Brew wedi ymuno â Phrosiect @Pharmabees Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i greu'r ddiod.

Wedi'i ddatblygu gan y cwmni o Abertawe a gwybodaeth wyddonol Caerdydd, mae'r te Bee Good to YOURSELF - sydd wedi'i gymysgu yn y DU - yn 100% naturiol.

“Rydyn ni’n credu mai hwn yw’r te gwyrdd cyntaf o’i fath i ddefnyddio mêl Cymreig go iawn ar ffurf tafnau o fêl - yn hytrach na chyflasyn mêl synthetig a ddefnyddir mewn cynhyrchion eraill,” meddai rheolwr gyfarwyddwr a sylfaenydd y cwmni, Alan Wenden.

“Mae Bee Good to YOURSELF yn gyfuniad adfywiol o de gwyrdd, mêl Cymreig pur, mwyar duon a blodau gwyllt gan gynnwys erwain, sy'n rhoi rhywbeth yn ôl i natur trwy gefnogi prosiectau peillwyr cymunedol ledled y wlad.”

Ar ôl dŵr, te yw'r ddiod sy'n cael ei yfed fwyaf yn y byd a chredir ei fod yn cynnig ystod o fanteision iechyd. Mewn astudiaethau labordy, maent wedi datgelu bod gan de allu i dargedu bygiau cyffredin sy'n achosi afiechydon.

Meddai Les Baillie, sy’n Athro Microbioleg yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol: Mae mêl wedi cael ei ddefnyddio am filenia i drin amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys anwydau.

Mae ein partneriaeth gyda Welsh Brew Tea yn rhan o’n gwaith i ddatblygu mêl yng Nghymru sy’n gallu lladd bacteria ymwrthol iawn. Bydd hyn yn efelychu mêl Manuka Seland Newydd y mae ei nodweddion gwrthfacteria yn deillio o gyfansoddion naturiol planhigion. Mae’r gwenyn yn trosglwyddo’r cyfansoddion hyn o’r planhigion wrth iddynt wneud y mêl.

Yr Athro Les Baillie Professor of Microbiology

Dywedodd Robyn Davies, Pennaeth Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chymrawd Arloesedd Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y llwyth cyntaf o de wedi cyrraedd Cymru, gan ychwanegu at ein portffolio o ddyfeisiau arloesol sy'n cefnogi lles yng Nghymru.”

Trwy @Pharmabees, mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn archwilio sut y gallai peillio rhai planhigion penodol arwain at ddatblygu cyffuriau i drin cyflyrau meddygol difrifol sydd bellach ag ymwrthedd i wrthfiotigau traddodiadol.

Mae Welsh Brew Tea hefyd yn cefnogi’r cynllun ‘mabwysiadu cwch gwenyn’, a ddatblygwyd gan un o gwmnïau technoleg ddysgu mwyaf blaenllaw Cymru, Bee1, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd i annog disgyblion ysgol i ddysgu am bwysigrwydd gwenyn a sut i’w cadw. Nod y cwmni yw annog ysgolion, busnesau ac unigolion i fabwysiadu eu cwch gwenyn (a’u gwenynwr) eu hunain wrth iddynt dyfu a dysgu sut i greu dyfodol naturiol a chynaliadwy.

Gellir prynu'r te newydd yn welshbrewtea.co.uk/wellness-tea/ am £6.95

Cysylltwch â info@welshbrewtea.com neu ffoniwch 01792 363391

https://youtu.be/tQctVn4QQQU

Rhannu’r stori hon

Defnyddiwch eich ffôn symudol i'n helpu i greu map o blanhigion sy'n addas i wenyn yng Nghaerdydd.