Yr Athro David Wyn Jones yn ymddeol ar ôl 46 mlynedd
8 Ionawr 2021
Mae’r Athro David Wyn Jones wedi ymddeol ar ôl 46 mlynedd o wasanaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth.
Ymunodd David â’r Ysgol yn wreiddiol fel myfyriwr israddedig, cyn aros yno ar gyfer ei astudiaethau ôl-raddedig. Fe’i penodwyd yn Ddarlithydd ym 1974, a daeth yn Uwch Ddarlithydd ym 1998, yn Ddarllenydd yn 2002, cyn derbyn Cadair Athro yn 2007. Bu’n Bennaeth ar yr Ysgol Cerddoriaeth rhwng 2008 a 2013.
Meddai’r Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth presennol yr Ysgol Cerddoriaeth: “Ers degawdau, mae David Wyn Jones wedi bod yn ganolog i Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Cododd drwy’r rhengoedd, o fyfyriwr israddedig i Bennaeth yr Ysgol, gan ddod yn ysgolhaig byd-enwog ym maes cerddoriaeth Glasurol ar yr un pryd. Pan ddes i’n Bennaeth ar yr Ysgol, roedd ei gyngor diplomyddol, profiadol a medrus yn hollol amhrisiadwy. Athro Emeritws fydd ei ymgnawdoliad nesaf, a gobeithio y bydd yma am yn hir—nid yn unig yn bresenoldeb yn ein plith, ond i’n hatgoffa am hanes yr Ysgol Cerddoriaeth—rhywun sy’n cofio’r gorffennol, ac sy’n sicrhau ein bod ni’n dathlu ac yn dysgu ganddo.”
Drwy gydol ei yrfa, mae David wedi ysgrifennu’n helaeth am gerddoriaeth a bywyd cerddorol yn Fiena. Mae ei gwmpas i’w weld yn ei astudiaeth ddiweddar Music in Vienna, 1700, 1800, 1900, sef astudiaeth o ddatganoliad graddol diwylliant cerddorol yn y ddinas, sy’n symud o gerddoriaeth swyddogol y llys ymerodrol i fyd Johann Strauss ac operatta Fiena. Mae wedi cyhoeddi dim llai na deuddeg o lyfrau, gan gynnwys cofiannau poblogaidd ar Haydn a Beethoven i ddarllenwyr anarbenigol, yr Oxford Composer Companion: Haydn, ac astudiaeth nodedig ar y symffoni yn Fiena yn oes Beethoven. Yn ddiamau, mae bellach yn un o brif awdurdodau’r byd ar gerddoriaeth Haydn, Mozart, Beethoven a’u cyfoedion.
Mae’n cael ceisiadau’n aml i gyfrannu ei arbenigedd at gyfnodolion academaidd, prosiectau ymchwil a chyhoeddiadau, ynghyd ag at ledaenu ysgolheictod yn gyhoeddus drwy’r BBC neu, ar hyn o bryd, fel ymgynghorydd i’r Llyfrgell Brydeinig ar gyfer Arddangosfa Beethoven sy’n dathlu 250 mlynedd ers geni’r cyfansoddwr. Mae hefyd yn ymgynghorydd i brosiect ymchwil ‘Concert Life in Vienna 1780–1830’ gan Sefydliad Cerddoleg Prifysgol Fiena. Etholwyd David yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2019.
Mae ei gyhoeddiad diweddaraf, Beethoven Studies 4, yn cynnwys traethodau gan ysgolheigion newydd a sefydledig, sy’n cynrychioli ystod eang o wahanol fethodolegau. Ysgrifenna ei gyd-olygydd ar y llyfr a’i gydweithiwr ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Keith Chapin, “Roeddwn i’n gyfarwydd ag ymchwil David ymhell cyn dod i’w adnabod yn bersonol, ac ro’n i’n cael fy syfrdanu bob tro gan ei sylw craff at fanylion a oedd yn ymddangos yn ddibwys ar yr olwg gyntaf, a gallu David i’w dyrchafu yn ddatgeliadau nodedig. Ers hynny, dw i wedi dod i’w adnabod fel ysgolhaig hael, meddwl-agored, a chwilfrydig, sydd wrth ei fodd â’i bwnc ac sy’n ymwybodol o eironïau cyfrwys hanes cerddoriaeth. Mae’n ysgolhaig tawel sy’n osgoi sylw. Oherwydd hynny, enillodd barch y gymuned academaidd gyfan.”
Serch hynny, nid am ei lwyddiannau academaidd yn unig y byddwn ni’n cofio David, ond hefyd am ei ymroddiad i’w fyfyrwyr a’r cysylltiadau a ffurfiodd gyda chymaint ohonyn nhw dros y blynyddoedd.
Mae David wedi bod yn ddarlithydd, yn fentor, ac yn oruchwylydd i gannoedd o fyfyrwyr dros y blynyddoedd, ac mae’n dal i gofio llwyddiannau llawer ohonyn nhw, gan gynnwys y rhai a raddiodd ddegawdau’n ôl. Roedd gwaith addysgu David yn canolbwyntio ar weithiau Clasurol, gan fanteisio’n benodol ar ei ddealltwriaeth arbenigol o Haydn, Mozart a Beethoven, ond yn ymestyn i fodiwl opera poblogaidd a oedd yn dilyn datblygiadau o Handel i Weber, oll wedi’u cyflwyno â chymysgedd ysbrydoledig o arbenigedd, eironi a brwdfrydedd. Roedd ei waith goruchwylio PhD yn adlewyrchu’r diddordebau hyn, ond roedd hefyd yn croesawu estheteg cerddoriaeth a’r amgylchedd diwylliannol a cherddorol yn Habsburg a Milan yn ystod oes Napoleon (1790–1802).
Meddai Alessandra Palidda, a raddiodd â gradd PhD yn ddiweddar: “Er gwaetha ei ymrwymiadau ymchwil ei hun, roedd David bob amser ar gael i drafod materion ar unrhyw lefel, o’r fethodoleg gyffredinol, ffynonellau, a ffocws ar fân-olygiadau. Roedd sesiynau goruchwylio gydag e bob amser yn para’n hir, oherwydd mor hawdd oedd eu troi’n sgyrsiau difyr. Yn aml, byddai’n mynd yr ail filltir i fy helpu ac fy annog i gael fy ngwaith allan yna; gydag e, fe ddatblygais i fel academydd, yn hytrach nag fel myfyriwr PhD yn unig.”
Cafodd un teulu cyfan y pleser o astudio gyda David. Disgrifiodd Eric, Elizabeth, a’u merch Angharad Phillips David fel “dyn gwirioneddol ysbrydoledig sydd wedi mowldio bywydau ein teulu ni a chymaint o fyfyrwyr eraill yn sylweddol.” Meddan nhw hefyd: “Gan ennill cydnabyddiaeth fyd-eang am ei waith ymchwil a’i lyfrau cyhoeddedig, mae ei enw da chwedlonol fel cerddolegydd yn llwyr haeddiannol. Mae’n dal i fod yn ddyn diymhongar, gwylaidd, caredig a hael. Mae hi wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cael astudio oddi tano.”
Meddai Dr Ben Curry, cyn-fyfyriwr sydd bellach yn Ddarlithydd Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham: “Yn ddiamau, David Wyn Jones yw un o’r athrawon gorau dw i’n eu hadnabod. Cafodd ei hiwmor, ei graffder a’i anogaeth gymaint o effaith arna i, a rhywsut fe lwyddodd i wneud y cyfan ymddangos yn hawdd! Dim ond yn ystod ail flwyddyn fy ngradd israddedig yng Nghaerdydd y gwnes i gydnabod yn iawn bod fy athro harmoni diymhongar a chyfeillgar hefyd yn ysgolhaig eithriadol. Rwy’n dal i fwynhau ei ysgrifennu heddiw; mae ei feddwl craff, ei ffraethineb a’i ysbryd hael bob amser i’w weld – dyn cyfareddol a hyfryd ac rwy’n siŵr y bydd colled mawr ar ei ôl.”
Rhannwch neges fideo i David. Os hoffech adael neges fwy bersonol i David neu drafod cyfraniadau eraill at ei ymddeoliad, gallwch ebostio'r Ysgol yn MusicOffice@caerdydd.ac.uk.