Mae Caru Grangetown 2020 yn mynd yn ddigidol
7 Ionawr 2021
Bob blwyddyn ers 2015, mae Porth Cymunedol wedi cynnal Caru Grangetown fel digwyddiad partneriaeth blynyddol, gan ddod â phartneriaid presennol a newydd Grangetown a Phrifysgol Caerdydd ynghyd i gryfhau a datblygu prosiectau cydweithredol.
Yn methu â chyflwyno'r dathliad traddodiadol ym Mhafiliwn Grange eleni oherwydd Covid-19, aeth y prosiect ar-lein, gan ddod â dros 50 o bartneriaid prifysgol a chymuned ynghyd i rannu syniadau ac ymrwymo i gydweithio.
Lansiwyd Caru Grangetown 2020, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Caerdydd Creadigol, gyda gair llafar gan Hanan Issa, gan ddathlu cyfoeth amrywiaeth ddiwylliannol yn Grangetown a Chymru, a daeth i ben gyda galwad i weithredu gan Ali Abdi, Rheolwr Partneriaethau Porth Cymunedol.
Derbyniodd arolwg Caru Grangetown 2020 dros 150 o ymatebion, yn cynrychioli cymunedau lluosog Grangetown. Nododd cyfranogwyr yr arolwg Strydoedd Glân a Mannau Gwyrdd, Grangetown diogel, a Darpariaeth ar gyfer Pobl Ifanc fel meysydd blaenoriaeth ar gyfer 2020-21, ac archwiliodd sgyrsiau yn Caru Grangetown ffyrdd y gallai prosiectau partneriaeth presennol a newydd gefnogi'r nodau hyn.
Bydd Porth Cymunedol yn parhau â'r sgyrsiau trwy gydol mis Ionawr 2021 mewn cyfres o sesiynau ar-lein bach anffurfiol a gynhelir gan aelodau'r tîm. Os hoffech chi ymuno â'r tîm ar-lein ym mis Ionawr, a chwrdd â phartneriaid eraill Prifysgol Caerdydd a Grangetown i ddatblygu prosiectau gyda'n gilydd, neu os oes gennych chi syniad am brosiect partneriaeth i'w ddatblygu gyda ni, cysylltwch â ni ar communitygateway@cardiff.ac.uk