ActiveQuote a Chaerdydd yn dod ynghyd
6 Ionawr 2021
Mae un o brif wefannau cymharu broceriaid ac yswiriant gwarchod y DU, ActiveQuote, wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu algorithmau dysgu peiriannol sy'n gyrru gwerthiannau.
Caniataodd Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth i'r cwmni o Gaerdydd elwa o arbenigedd gwyddor data'r Brifysgol, gan helpu i wella cyfleoedd gwerthu bron i draean.
Creodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac ActiveQuote fodel algorithmig o'r enw Rubee, sy'n nodi cwsmeriaid sy'n debygol o brynu cynnyrch yn hytrach na'r rhai sy'n pori yn unig.
Mae'r model yn dyrannu sgôr i bob ymholiad, sy'n llywio trefn ac amlder y strategaeth cyswllt cwsmeriaid. Mae hyn yn galluogi ActiveQuote i roi'r wybodaeth, yr arweiniad a’r gefnogaeth gywir yn gyflymach i’r cwsmeriaid sydd â’r bwriad mwyaf i brynu a rhoi lle i’r rhai sydd ddim ond yn pori i ystyried eu hopsiynau.
Mae'r system, sydd wedi bod ar waith ar gyfer Yswiriant Meddygol Preifat (PMI), wedi cynyddu cyfraddau trosi gan 30%.
Bydd y dull yn helpu i yrru datblygiadau yn y dyfodol, gan gynnwys neilltuo ymholiadau i sgiliau cynghorwyr penodol yn ogystal â chefnogi cwsmeriaid sydd fwyaf tebygol o ddod i ben yng nghanol y tymor neu wrthod y polisi wrth ei adnewyddu i wella gwerth oes.
Mae gan Dr Yuhua Li, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, enw da yn rhyngwladol mewn pynciau arbenigol o ddysgu peiriannol fel dewis nodweddion, dewis patrymau critigol, canfod anghysondebau a rhwydweithiau niwral.
“Nododd ActiveQuote yr angen i fynd i’r afael â maes heriol iawn. Mae modelu data cymhleth sy’n canolbwyntio ar bobl yn gofyn am gyfuniad o amrywiaeth o bynciau blaengar,” meddai Dr Li.
“Trwy fy ngwaith fel Goruchwyliwr KTP, roeddwn yn gallu awgrymu a goruchwylio ymgorffori amrywiaeth o nodweddion set ddata unigryw a heriau ffactorau dynol a helpodd i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cwmni yn barhaus."
Dywedodd Rob Saunders, Prif Swyddog Gweithredol ActiveQuote: “Mae galluoedd trin a phrosesu data soffistigedig yn sylfaenol i’n strategaeth fusnes. Mae angen i ni ymgorffori gwybodaeth a galluoedd technegol newydd a thrawsnewid ein model busnes dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir a bydd y bartneriaeth hon yn caniatáu i ni wneud hynny. Bydd yr hyn y mae Prifysgol Caerdydd a thîm datblygu ActiveQuote wedi'i greu yn gyrru strategaethau cyswllt cwsmeriaid yn y dyfodol ar gyfer cwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol er mwyn cael gwell profiad i gwsmeriaid, cynyddu ein gwerthiant a gwella ein proffidioldeb hefyd.
“Mae’r defnydd hwn o algorithmau wedi sbarduno twf busnes trwy ymgorffori a manteisio ar y data a oedd gennym eisoes mewn ffordd effeithlon ac effeithiol wahanol. Rydym yn hynod gyffrous am yr hyn y bydd Rubee yn ei greu i ni fel busnes a sut y bydd o fudd i'n cleientiaid a'n cwsmeriaid wrth i ni esblygu ei allu. Mae arloesedd yn allweddol i gadw o flaen tueddiadau cyfredol mewn busnes, ac mae hyn yn caniatáu i ni wneud yn union hynny.”
Ychwanegodd Roger Whitaker, Deon Ymchwil y Coleg ac Athro Deallusrwydd Gyfunol, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Mae'r KTP gyda ActiveQuote nid yn unig yn dangos yr effaith fasnachol y gall rhagoriaeth academaidd unigol ei dwyn i gwmni ond mae hefyd yn tynnu sylw at y rôl y gall Prifysgol Caerdydd ei chwarae wrth gefnogi trawsnewidiad diwydiannol ehangach yng Nghymru, trwy gymhwyso gwyddoniaeth data a deallusrwydd artiffisial."
Mae'r cynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn helpu busnesau yn y DU i arloesi a thyfu. Mae'n gwneud hyn trwy eu cysylltu â sefydliad academaidd neu ymchwil a myfyriwr graddedig. Mae KTP yn galluogi busnes i ddod â sgiliau newydd a'r meddwl academaidd diweddaraf i mewn i gyflawni prosiect arloesi strategol penodol trwy bartneriaeth sy'n seiliedig ar wybodaeth.