Amgylcheddau gwaith cynhwysol o ran anabledd
30 Medi 2020
Clywodd y rheini a ddaeth i Sesiwn Hysbysu dros Frecwast ddiweddaraf Ysgol Busnes Caerdydd sut y gallai cynnydd mewn gweithio o bell a gweithio hyblyg ers pandemig COVID-19 wneud proffesiwn y gyfraith yn fwy hygyrch i bobl anabl.
Dan arweiniad yr ymchwilwyr yr Athro Debbie Foster a Dr Natasha Hirst, ynghyd â Jane Burton a Chris Seel o Gymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr, rhannodd y sesiwn ganfyddiadau arolwg diweddar o dros 100 o gyfreithwyr anabl.
Dechreuodd yr Athro Foster drwy osod canfyddiadau eu harolwg diweddar yng nghyd-destun prosiect ehangach a mwy sylweddol, o'r enw: Legally Disabled? The career experiences of disabled people working in the legal profession.
Newid pwysig
Dywedodd: “Un o ganfyddiadau allweddol ein hymchwil oedd mai'r addasiad rhesymol y gofynnwyd amdano fwyaf mewn gwirionedd oedd gweithio gartref neu o bell, ond hwn hefyd oedd yr addasiad rhesymol a wrthodwyd fwyaf.
“Roedd llawer o bobl anabl yn cwyno nad oedd cyflogwyr yn ymddiried ynddyn nhw i weithio gartref a gweithio'n annibynnol.”
Gyda'r arferion hyn yn cael eu gorfodi ar y mwyafrif helaeth o weithwyr ar draws pob sector yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), roedd y tîm yn awyddus i ddeall a yw hyn wedi newid y diwylliant ym mhroffesiwn y gyfraith a'r ffordd o weithio hefyd...”
Roedd y math hwn o brofiad hefyd yn amlwg yn arolwg diweddar yr ymchwilwyr a gynhaliwyd ar y cyd â Chymdeithas y Gyfraith. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r ymatebwyr, canfuwyd bod gweithio gartref yn ystod y pandemig yn eu galluogi i reoli eu hanabledd yn fwy effeithiol.
Yn ogystal ag amlinellu maint a siâp yr arolwg, rhannodd y cyd-ymchwilydd Dr Natasha Hirst fwy o ganfyddiadau gan gynnwys data ar:
- Profiadau iechyd corfforol a meddyliol o weithio gartref
- Newidiadau i'r trefniadau gweithio
- Addasiadau rhesymol
- Ymddiriedaeth, hyder a phwysau cysylltiedig â gwaith
- Cynhyrchiant
- Rheoli nam a gwaith.
Rheolaeth a hyblygrwydd
“Dywedodd 70% o’r ymatebwyr y byddai’n well ganddyn nhw barhau i weithio gartref yn y tymor hirach,” meddai Dr Hirst.
“A chafwyd mwy o eglurder yn sylwadau'r arolwg. Nododd llawer y bydden nhw'n hoffi cael mwy o reolaeth a hyblygrwydd i rannu eu hamser rhwng y swyddfa a gweithio gartref...”
Wrth gloi’r cyflwyniad, pwysleisiodd yr Athro Foster yr angen i sefydliadau beidio â rhagdybio dim a chyd-gynhyrchu yn hytrach nag ymgynghori ar faterion yn ymwneud ag anabledd a mathau eraill o amrywiaeth.
Galwodd am ail-ddychmygu amgylchedd gwaith a nodweddir gan ddewis a chyfuniadau, lle mae iechyd, diogelwch, lles a gweithio gartref yn bryderon i bawb.
“Yn y wlad hon, mae angen i ni agor y drafodaeth a meddwl am y dyfodol,” meddai.
Gan ddod â’r sesiwn i ben, ymunodd Chris Seel, o Dîm Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithas y Gyfraith, a Jane Burton, Cadeirydd Is-adran Cyfreithwyr ag Anableddau Cymdeithas y Gyfraith, â’r Athro Foster a Dr Hirst am sesiwn holi ac ateb.
Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.
Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.
Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.
Darllen mwy am brofiadau gyrfa pobl anabl sy'n gweithio ym mhroffesiwn y gyfraith.