Diwedd cyfnod pontio Brexit yn nodi “cyfnod o aflonyddwch sylweddol” i economi Cymru
17 Rhagfyr 2020
Yn ôl academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, mae angen mwy o gefnogaeth y tu hwnt i gyfnod pontio Brexit ar fusnesau mewn rhai sectorau allweddol yn economi Cymru.
Mae adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dod i'r casgliad y bydd busnesau’n wynebu "cyfnod o aflonyddwch sylweddol" o 1 Ionawr, gydag addasiadau tymor hir gan gynnwys buddsoddi mewn arloesedd traws-sector yn ogystal ag ymchwil a datblygu yn angenrheidiol er budd iechyd yr economi yn y dyfodol.
Ychwanegodd, “bydd gallu’r busnesau i ymdopi ac ymateb yn hanfodol er mwyn iddynt oroesi a ffynnu.”
Mae'r ymchwilwyr yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru annog camau i ailsgilio a mwy o swyddi ym meysydd tollau, seilwaith digidol a logisteg er mwyn ymdopi â'r ymchwydd disgwyliedig yn y galw gan fusnesau.
Mae hefyd yn argymell bod angen rhoi cyllid brys i fusnesau mewn sectorau fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, moduron a gwyddorau bywyd, sy'n dibynnu ar brosesau hwylus ar draws ffiniau oherwydd gallai oedi mewn porthladdoedd effeithio arnynt yn wael.
Mae Helen Tilley yn Uwch-gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. “Er ein bod yn gobeithio y bydd cytundeb, sef y canlyniad gorau i Gymru, mae cael cytundeb mor agos at ddiwedd y cyfnod pontio yn golygu mai ychydig iawn o amser fydd gan fusnesau i ddeall yr effaith ar weithgareddau o ddydd i ddydd. Gan na fydd hyn yn gadael llawer o amser iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau i ddod yn 2021, y gobaith yw y bydd modd cael cyfnod ychwanegol i ragor o fusnesau fydd angen amser i baratoi. ”
Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (17 Rhagfyr) yn cyflwyno canfyddiadau o adolygiad tystiolaeth, gan ddadansoddi goblygiadau’r cyfnod o newid i’r sectorau allweddol yn economi Cymru.
Dangosodd y bydd angen mwy o gefnogaeth ar sectorau allweddol i gynnal a gwella eu sefyllfa, yn enwedig y rhai sy'n cynhyrchu nwyddau cydrannol - gan gynnwys moduron, awyrofod a dur - a'r rheini sy'n allforio cynnyrch ffres i'r Undeb Ewropeaidd, megis amaethyddiaeth a physgodfeydd.
Dywed ymchwilwyr fod eu canfyddiadau hefyd wedi tynnu sylw at oblygiadau cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer marchnad fewnol y DU i Gymru.
Dywedodd Dr Tilley: “Mae cyflwyno fframweithiau cyffredin ddydd Mawrth i Fil y Farchnad Fewnol yn gydnabyddiaeth bwysig o’r setliad datganoledig yn y DU. Fodd bynnag, mae'n dal i ganiatáu i Lywodraeth y DU ddiystyru Llywodraeth Cymru mewn rhai meysydd felly bydd angen rhoi sylw parhaus i'r manylion.”
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhan o rwydwaith What Works y DU ac mae'n galluogi llunwyr polisi yng Nghymru i gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd annibynnol a’i defnyddio er mwyn llunio polisïau yn well.
Mae'r Ganolfan yn aelod o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (SPARK) - casgliad o grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaenllaw sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol trwy weithgaredd ymchwil cydweithredol. Bydd wedi'i chydleoli mewn hwb arloesedd newydd, sbarc, yn 2021.