‘Mae yna fyd anhysbys a chudd y tu mewn i bob un ohonom - a gall ddweud cymaint wrthym’
16 Rhagfyr 2020
Pan mae Sophie Watson yn dweud wrth deulu a ffrindiau beth yw ei gwaith, mae'n tueddu i'w gadw'n syml; “Rwy'n dweud fy mod i'n gweithio gydag eirth gwyn (polar bears) a bolgwn (wolverines).”
Mae'r realiti ychydig yn fwy anarferol.
Mae Sophie yn astudio’r bacteria a’r parasitiaid a geir ym mherfeddion anifeiliaid yr Arctig i weld beth allwn ei ddysgu am y rhywogaethau hyn a’u hamgylchedd. Fel mae’n digwydd, gallwn ddysgu cryn dipyn.
“Mae yna fyd anhysbys a chudd y tu mewn i’r anifeiliaid hyn - y tu mewn i bob un ohonom - a gall ddweud cymaint wrthym,” meddai Sophie, myfyriwr ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd.
“Mae'r perfedd yn ecosystem fach ei hun ac mae'r bacteria a'r parasitiaid sy'n byw yma yn sylfaenol i iechyd - da a drwg - yr anifeiliaid hyn. Gallant roi cipolwg i ni i'w bywydau a'r byd o'n cwmpas.
“Maen nhw mor bwysig ac eto mae cymaint nad ydyn ni'n ei wybod eto am y meicro-amgylcheddau hyn.
“Efallai ei fod yn swnio’n rhyfedd iawn - ond rwy’n credu ei fod yn anhygoel.”
Yr Arctig yw'r rhanbarth fwyaf gogleddol ar y ddaear ac mae'n cynnwys rhannau o Sgandinafia, Rwsia, Canada, yr Ynys Las ac Alaska.
Gall astudio rhywogaethau yn yr eithafion hyn fod yn ddangosyddion pwysig o newid yn yr hinsawdd, meddai Sophie.
Dangosodd ei hymchwil flaenorol fod colli iâ môr yn yr Arctig yn gysylltiedig â gwahaniaethau ym macteria perfedd eirth gwyn; Canfu Sophie wahaniaethau ym microbiota perfedd eirth gwyn sy'n aros allan ar rew'r môr o gymharu â'r rhai sydd wedi newid eu hymddygiad i ddod i’r lan oherwydd bod eu cynefin yn diflannu’n gyflym.
Gall newidiadau mewn cymunedau o facteria perfedd arwain at ganlyniadau pryderus i iechyd y rhywogaeth - ac mae ceisio deall mwy am sut mae eirth gwyn a rhywogaethau eraill yn ymateb i effeithiau niferus cynhesu byd-eang, megis colli cynefin neu newid deiet, yn hanfodol.
Mae ei hymchwil ddiweddaraf yn edrych ar arferion rhywogaeth arall o’r Arctig.
Gweithiodd Sophie gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, dwy brifysgol yng Nghanada a'r llywodraeth i ddatgelu gwybodaeth newydd am barasitiaid sy'n byw y tu mewn i folgwn.
“Yn yr astudiaeth hon fe wnaethon ni ymchwilio i barasitiaid bolgwn o Nunavut, rhanbarth sy'n uchel yn Arctig Canada. Fe wnaethon ni ganfod amrywiaeth o wahanol barasitiaid, gan gynnwys Baylisascaris devosi, math o lyngyren fain (roundworm), a Taenia twitchelli, llyngyren ruban (tapeworm). Nid yw'r ddwy yma wedi'u cofnodi mewn bolgwn ers 1978.
“Gwnaeth ein hymchwil estyn dosbarthiad daearyddol y parasitiaid hyn mewn bolgwn gan 2,000km i'r dwyrain ac i ecosystem y twndra - tirweddau mwy garw a diffaith yr Arctig."
Wrth i dymheredd y byd godi mae'n newid atgenhedliad a goroesiad amrywiol parasitiaid sy'n byw y tu mewn i lawer o rywogaethau, felly mae'n hanfodol taflu golau ar yr hyn sy'n bresennol nawr er mwyn i ni weld sut y gallai hyn newid yn y dyfodol, meddai Sophie.
“Mae monitro bywyd gwyllt, yn enwedig mewn amgylcheddau mor eithafol, yn chwarae rhan bwysig wrth nodi newidiadau a fydd, gobeithio, yn ein helpu i feddwl am gamau a allai arafu neu leihau unrhyw effaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd fel yr Arctig lle mae’r hinsawdd yn newid mor gyflym.”
Cafodd Sophie ei swyno gan natur ers yn ifanc a chynghorydd gyrfaoedd oedd yn byw drws nesaf a awgrymodd y gallai gwaith ymchwil ar fywyd gwyllt fod yn syniad diddorol.
Astudiodd Sŵoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna gweithiodd ar brosiect i fonitro twf poblogaeth eirth brithion (grizzly bears) yn yr UD trwy ddadansoddi blew o goed lle’r oedd eirth yn rhwbio. Wedi'i hannog gan ymchwilwyr benywaidd eraill, aeth i weithio yn Alaska a sylweddolodd nad oedd llawer o wybodaeth am barasitiaid a chlefydau’r perfedd yn rhai o rywogaethau mwyaf eiconig yr Arctig hyd yn oed, gan gynnwys eirth gwyn.
“Roedd llawer o rywogaethau’r Arctig - ac yn dal i fod - wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol ac roeddwn i wedi fy synnu’n fawr fod cyn lleied o ymchwil wedi’i gwneud yn y maes hwn er gwaethaf ei phwysigrwydd i iechyd,” meddai.
Cynhaliodd Sophie radd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Fondazione Edmund Mach, yr Eidal, i edrych ar barasitiaid mewn eirth gwyn, gan ehangu hyn yn ei PhD i edrych ar ficrobiota’r perfedd a pharasitiaid llawer o rywogaethau ar draws yr Arctig yn ei gyfanrwydd.
I Sophie, mae’r cyfuniad o astudio rhai o rywogaethau mwyaf prin y byd yn un o’r lleoedd mwyaf “hudol, dilychwin, heb ei gyffwrdd” sy’n “ganolbwynt i’w hymchwil”, yn freuddwyd.
Ond mae yna un broblem gyda’i gwaith - nid yw hi erioed wedi gweld yr anifeiliaid y mae'n gweithio arnyn nhw.
“Byddwn i wrth fy modd yn gweld arth wen neu folgi - efallai caf i’r cyfle un diwrnod,” meddai.
“Ond mae’n ychwanegu at yr apêl ac mewn ffordd mae’n braf oherwydd ei fod yn golygu bod y rhywogaethau hyn yn y lle iawn, heb eu cyffwrdd gan fodau dynol ac yn byw eu bywydau fel y dylent.”
The Parasites of an Arctic scavenger; the wolverine (Gulo gulo): Roedd hwn yn gydweithrediad â'r Université de Moncton, Prifysgol Saskatchewan, y sefydliad dielw ArctiConnexion, sy'n gweithio i gymunedau arctig brodorol, a Llywodraeth Nunavut. Goruchwyliwr ymchwil Sophie yw’r Dr Sarah Perkins o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd.