Ffilm wedi’i hanimeiddio gan y BBC yn dangos gwaith a gyhoeddir gan garcharorion
16 Rhagfyr 2020
Mae ffilm a gyd-ysgrifennwyd gan ddarlithydd o’r Ysgol Ieithoedd Modern wedi’i dangos am y tro cyntaf ar BBC iplayer yn rhan o gyfres newydd o weithiau byr wedi’u hanimeiddio, i ddangos ymchwil gan academyddion y DU.
Mae'r ffilm, Writing from the Shadows, yn rhan o gyfres Animated Thinking y BBC. Fe'i hysgrifennwyd gan Dr Joey Whitfield, Uwch-ddarlithydd Astudiaethau Sbaenaidd, a Dr Lucy Bell o Brifysgol Surrey.
Mae'r ffilm, sydd wedi'i hanimeiddio gan Sophie Marsh, yn edrych ar sut mae ysgrifennu a chyhoeddi yn cael eu defnyddio fel dull adsefydlu gan bobl sydd wedi'u carcharu ym Mecsico a'r DU. Mae'n ffrwyth prosiect sy'n cefnogi sefydliadau llawr gwlad ym Mecsico sy'n gweithio gyda charcharorion a phobl ar yr ymylon, gan ddod ag arferion cymunedol America Ladin fel cyhoeddi Cartonera i garchardai yn y DU.
Mae cyhoeddi Cartonera, sydd hefyd yn cael ei alw’n gyhoeddiadau cardfwrdd, yn defnyddio cardfwrdd wedi'i ailgylchu i greu prosiectau cyhoeddi amrywiol. Pan gafodd ei gyflwyno fel gweithgaredd mewn carchardai, daeth i’r amlwg ei fod yn hybu llythrennedd, hunan-barch, creadigrwydd ac annibyniaeth ariannol.
Dywedodd Dr Whitfield, "Mewn prifysgolion rydym yn tueddu i feddwl am ysgrifennu llenyddol fel proses unigolyddol a hynod hierarchaidd. Bod llenyddiaeth yn cael ei chreu gan leiafrif o bobl freintiedig, hynod alluog er mwyn i’r gweddill ohonom ei gwerthfawrogi a'i hastudio. Mae'r ffilm hon yn trin a thrafod sut y gall creu llenyddiaeth a chynhyrchu llyfrau fod yn arferion adeiladu cymunedol ar y cyd hefyd sy’n gallu trawsnewid bywydau pobl mewn sefyllfaoedd anodd dros ben."
Yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, mae Dr Whitfield hefyd yn gyfrifol am brosiect Tu Chwith Allan Prifysgol Caerdydd oedd yn cael ei gynnal cyn dyfodiad pandemig COVID-19. Mae Tu Chwith Allan yn gyfnewidfa addysgol lle caiff modiwlau a gynhelir drwy gydol y semester eu cyflwyno i ddosbarthiadau cymysg o ddysgwyr ac israddedigion sydd wedi'u carcharu yng Ngharchar Caerdydd. Mae'r math trawsnewidiol hwn o addysgu’n gweithio drwy chwalu ffiniau. Mae'r ddau grŵp o ddysgwyr yn cael eu rhoi mewn mannau na fyddai'r naill na'r llall fel arfer ynddynt ac yn cael eu gosod yn gyfartal. Mae'r cynllun o fudd i'r Brifysgol a'r carchar, gan wella profiad a chyfleoedd carcharorion ac israddedigion.