Corneli Tsieineaidd yn parhau i ddatblygu
16 Rhagfyr 2020
Ym mis Rhagfyr gwelwyd trydydd Cornel Tsieineaidd ar-lein Sefydliad Confucius Caerdydd, gan ganolbwyntio y tro hwn ar bensaernïaeth.
Roedd y digwyddiad, o'r enw 'Athrylith Preswylfeydd Tsieineaidd Traddodiadol', yn caniatáu i'r cyfranogwyr ddysgu sut mae athroniaeth Tsieineaidd wedi dylanwadu ar y ffordd y mae cartrefi Tsieineaidd yn cael eu hadeiladu, yn ogystal â sut maen nhw'n gweithredu. Hefyd, drwy eu cynnal ar Zoom roedd yn ein caniatáu i ryngweithio â chyfranogwyr eraill ac athrawon Sefydliad Confucius mewn trafodaethau grŵp bach, yn ogystal â gwrando ar y sesiwn lawn. Mae'r fformat hwn wedi bod yn boblogaidd iawn i ddysgwyr sy'n mwynhau'r cyfle i gael cymysgedd o gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol.
“Ffordd ryngweithiol a rhyfeddol bob amser o ddysgu am ddiwylliant ac iaith Tsieineaidd” - Luisa Pèrcopo
Arweiniwyd 'Athrylith Preswylfeydd Tsieineaidd Traddodiadol' gan y tiwtor Mandarin, Jie Chen. Mae gan Jie gyfoeth o wybodaeth am y pwnc, ar ôl astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Tianjin a Phrifysgol Xiamen ac ennill gradd Meistr mewn Hanes a Theori Pensaernïaeth. Yn ystod y digwyddiad, roedd cyfranogwyr yn gallu ystyried a thrafod sut mae pobl yn Tsieina wedi adeiladu eu cartrefi, a sut mae hyn yn adlewyrchu ar eu diwylliant ac yn effeithio ar eu bywydau bob dydd.
“Rhoddwyd pensaernïaeth Tsieineaidd yng nghyd-destun hanes, daearyddiaeth, diwylliant ac athroniaeth (Conffiwsiaeth a Thaoaeth) a oedd yn ddiddorol iawn. Roedd lluniau a diagramau yn dda iawn. ” - Chris Burns
Mae ein Corneli Tsieineaidd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am Tsieina, ei diwylliannau a'i hiaith. Ymhlith y pynciau blaenorol roedd hanes, etymoleg, gwyliau a digwyddiadau arbennig Tsieina, a chyflwyniad i Mandarin. Mae Sefydliad Confucius Caerdydd wedi bod yn cynnal y digwyddiadau hyn ar-lein ers mis Gorffennaf, gan ddechrau gyda sgwrs o'r enw Gweld Tsieina o'ch Soffa . Roedd y cyflwyniad yn ymdrin ag ystod o weithgareddau diwylliannol gan gynnwys safleoedd enwog, dinasoedd hanesyddol a bwydydd lleol.
Yn dilyn trosglwyddiad llwyddiannus ein cyflwyniadau Cornel Tsieineaidd o'u cyflwyno'n bersonol i'w cyflwyno ar-lein, byddwn yn parhau â'r gyfres ar-lein y flwyddyn nesaf, gan ddechrau gyda 'Blwyddyn Newydd, Gŵyl y Gwanwyn a Phrif Gwyliau eraill yn Tsieina' ar 20 Ionawr.
Y digwyddiadau eraill sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2021 yw:
- Bywyd Cymdeithasol yn Tsieina Fodern – 24 Chwefror
- Addysg yn Tsieina – 24 Mawrth
- Daearyddiaeth a Theithio yn Tsieina – 5 Mai
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'n cyfres o gyflwyniadau yn 2021 o gysur eich cartref eich hun!