Amrywiaeth yn niwydiant cyfryngau'r DU dan y chwyddwydr
8 Rhagfyr 2020
Bydd amrywiaeth a diwydiant cyfryngau'r DU yn destun cyfnodolyn newydd.
Mae 'Reprezentology - y Cyfnodolyn ar gyfer y Cyfryngau ac Amrywiaeth', cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Dinas Birmingham, yn edrych ar sut mae'r cyfryngau'n cynrychioli'r boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu. Dyma'r cyhoeddiad cyntaf o'i fath i ddod â'r byd academaidd ac ymarferwyr cyfryngau ynghyd ar gyfer cymysgedd o ymchwil ac erthyglau ysgrifenedig, a fydd yn mynd i'r afael â phynciau sy'n rhychwantu'r holl nodweddion gwarchodedig gan gynnwys hil, rhyw, rhywioldeb, dosbarth ac anabledd, yn ogystal â'r croestoriadau rhyngddynt.
Mae'r rhifyn cyntaf yn cynnwys erthyglau o ffigurau blaenllaw yn y frwydr am gynrychiolaeth well, gan gynnwys yr Athro David Olusoga, Dr Syr Lenny Henry, Charlene White a'r diweddar Stuart Hall - sy'n enwog fel un o ffigurau sefydlu Astudiaethau Diwylliannol Prydain.
Dywedodd Dr David Dunkley Gyimah o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Rwy’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni wrth lansio’r cyfnodolyn hwn sy’n ceisio rhoi mwy o sylw i faterion ym meysydd amrywiaeth a chynhwysiant. Rwyf yr un mor fodlon ar yr ysbryd o gyd-greu y mae dwy brifysgol Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Dinas Birmingham a'i Chanolfan Cyfryngau ac Amrywiaeth Syr Lenny Henry wedi ei mabwysiadu wrth fynd i'r afael â'r her hon. Hoffwn ddiolch i'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, yr Athro Stuart Allan, Thomas Hay a Michelle Alexis, a Barry Diamond o Brifysgol Caerdydd, a'r Athro Diane Kemp a'r Athro Marcus Ryder a'r tîm golygyddol. "
Sefydlwyd Reprezentology yn dilyn sgyrsiau rhwng academyddion yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Amrywiaeth y Cyfryngau Syr Lenny Henry Prifysgol Dinas Birmingham.
Ymhlith yr erthyglau yn y rhifyn cyntaf mae:
- Syr Lenny Henry a'r Athro David Olusoga yn trafod amrywiaeth y cyfryngau, cof sefydliadol a hiliaeth yn niwydiant teledu y DU;
- Charlene White ar ddod â materion cyfoes a darlledu plant ynghyd ar gyfer ei sioe IRL gyda Team Charlene;
- Dr Peter Block ac Emma Butt yn amlinellu eu hymchwil ar y diffyg systemig o amrywiaeth mewn timau sain rheoleiddio darlledu ac ôl-gynhyrchu;
- Mae Dr David Dunkley Gyimah yn ysgrifennu am bŵer archif.
Mae erthyglau eraill yn canolbwyntio ar weithio ar eich liwt eich hun, newyddiaduraeth wleidyddol, traethawd teledu yr Athro Stuart Hall ar hil ar y BBC a ailgyhoeddwyd, darluniau diwylliannol o anabledd a mentrau menywod yn y Financial Times. Bydd adolygiadau llyfrau ac argymhellion cyfryngau gan Marverine Duffy hefyd.
Golygir y cyfnodolyn gan K Biswas, beirniad sydd wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys y New York Times, New Statesman, The Nation a’r Times Literary Supplement. Ef hefyd yw sylfaenydd The Race Beat, rhwydwaith newydd ar gyfer newyddiadurwyr o liw sy'n gweithio yn y DU .
Dywedodd K Biswas: “Anrhydedd yw golygu rhifyn cyntaf y cyhoeddiad hanfodol hwn, sy’n cynnwys cyfraniadau gan rai o hoelion wyth y cyfryngau ac yn amlygu ffeithiau a phrofiadau o bwys ynghylch amrywiaeth yn y DU.
“Rydyn ni am i Reprezentology deimlo’n wahanol i gyhoeddiadau eraill, gan gynnwys yr academi ar y naill ochr a’r rhai sydd wrth wraidd y cyfryngau Prydeinig ar y llall.”
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Fel sy'n wir mewn sawl maes o'r gymdeithas, yn aml nid yw'r cyfryngau prif ffrwd yn cynrychioli amrywiaeth y gymdeithas y maent yn honni ei bod yn adlewyrchu.
“Gall strwythurau pŵer, modelau ariannol ac apwyntiadau i swyddi rheoli a golygyddol dylanwadol i gyd filwrio’n erbyn diwydiant cyfryngau cynrychioliadol. Nod Reprezentology yw gwneud rhywbeth am hynny.
“Mae hwn yn brosiect arloesol a fydd yn dathlu ac yn cyfoethogi'r diwydiant diwylliannol yn ei gyfanrwydd, a bydd yn rhoi llwyfan mwy i ystod ehangach o leisiau a safbwyntiau nag yr ydym wedi'i weld hyd yn hyn. Yn y modd hwn mae Reprezentology yn mynd i’r afael â phroblem sy’n effeithio nid yn unig ar y cyfryngau, ond ar bob un ohonom, ar adeg pan mae angen newid ar frys.”
Dywedodd yr Athro Philip Plowden, Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Dinas Birmingham: Mae Prifysgol Dinas Birmingham wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac rydym yn falch iawn o weithio gyda'n Canghellor gwych Syr Lenny Henry, a'n ffrindiau ym Mhrifysgol Caerdydd i lansio Reprezentology. Mae eleni wedi dysgu llawer i ni, yn anad dim ei bod yn hen bryd cyflawni a dathlu cydraddoldeb hiliol.
“Wedi’i ysgrifennu mewn iaith syml, ac yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho, rydyn ni am agor y sgwrs hon i’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i lywio newid go iawn. Mae prifysgolion yn gyfrwng i alluogi trawsnewid, ac o'r herwydd, ein dyletswydd a'n hangerdd yw hyrwyddo cynnydd cymdeithasol trwy ddysgu, ymchwil, arloesi a chydweithio.”
Cyhoeddir y cyfnodolyn ddwywaith y flwyddyn, a bydd ar gael i'w weld yma: www.bcu.ac.uk/reprezentology-journal