Lansio astudiaeth Nyrsio COV-Ed
4 Rhagfyr 2020
Caiff astudiaeth newydd ei lansio ar draws y DU yr wythnos hon sy'n edrych ar sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fyfyrwyr nyrsio ail a thrydedd flwyddyn.
Cyllidir yr astudiaeth ymchwil 18 mis gan yr ESRC ac UKRI a bydd yn sicrhau gwybodaeth drwy ddyddiaduron wythnosol a chyfweliadau trylwyr gyda myfyrwyr nyrsio ar draws pob maes nyrsio a 4 gwlad y DU. Bydd y prosiect yn nodi'r ffactorau sy'n helpu i hybu gwydnwch a chefnogi addysg glinigol myfyrwyr nyrsio yn ystod pandemig COVID-19. At hynny, bydd yn mapio effaith eu profiad presennol ar eu hunaniaeth broffesiynol a'u dyheadau at y dyfodol fel nyrsys cofrestredig. Yn olaf, bydd y prosiect yn datblygu gwersi allweddol ar gyfer addysgeg nyrsio, ymarfer, a pholisi’r gweithlu.
Arweinir cangen Cymru o'r astudiaeth gan yr Athro Daniel Kelly, deiliad Cadair Ymchwil Nyrsio'r Coleg Nyrsio Brenhinol a Dr Tessa Watts, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Kelly: 'Mae'r astudiaeth yn edrych yn uniongyrchol ar brofiad myfyrwyr nyrsio yn ystod Covid19 gan geisio deall yr heriau a'r cyfleoedd, er mwyn i ni allu dysgu ganddyn nhw ar gyfer y dyfodol.'
Ychwanegodd Dr Watts: 'Yn ystod pandemig Covid-19 a Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig mae myfyrwyr nyrsio wedi rhoi cymaint ac maen nhw'n parhau i wneud. Dyma Nyrsys Cofrestredig y dyfodol. Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi llais i'r myfyrwyr hyn er mwyn i ni allu deall eu profiadau addysgol yn well a datblygu addysg briodol ac ymyriadau cefnogol.'
Prifysgol Oxford Brookes yw prif ganolfan yr astudiaeth ymchwil sy’n cwmpasu’r DU gyfan, ac ymhlith y sefydliadau partner eraill mae Birmingham, Dundee, Ulster a Choleg Kings Llundain. Mae panel cynghori o 4 myfyriwr, un o bob gwlad, wedi'i sefydlu i helpu i lywio'r astudiaeth.
Anelir yr astudiaeth ymchwil at fyfyrwyr sy'n gweithio ym mhob amgylchedd ymarfer yn ystod pandemig Covid-19. Gall unrhyw fyfyriwr nyrsio ail neu drydedd flwyddyn sy'n dymuno cymryd rhan a derbyn taleb amazon o £20 ynghyd â chyfle i ennill iPad gofrestru yma.