Ailddefnyddio masgiau wyneb: ai microdonnau yw'r ateb?
4 Rhagfyr 2020
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn profi ymarferoldeb defnyddio microdonnau a gwres sych i ddiheintio PPE hanfodol sy'n cael ei ddefnyddio i daclo pandemig y coronafeirws.
Gan adrodd am eu canfyddiadau yn Journal of Hospital Infection, mae'r tîm wedi dangos y gall rhai mathau o anadlyddion gael eu diheintio'n effeithiol mewn dim ond 90 eiliad gan ddefnyddio microdon diwydiannol a sterileiddiwr potel babi'n cynnwys dŵr.
Adroddwyd yn eang bod mynediad at anadlyddion a masgiau wyneb llawfeddygol wedi dod yn gyfyngedig mewn llawer o gyfleusterau yn ystod y pandemig.
“Mae methu â chael gafael ar PPE digonol yn rhoi gweithwyr rheng flaen a chleifion mewn perygl o ddal y coronafeirws. Er bod masgiau fel arfer yn cael eu hystyried yn eitemau untro, roeddem am ddarganfod a allent gael eu diheintio yn ddiogel a'u defnyddio eto,” meddai cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Jean-Yves Maillard, o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.
Mae'r ymchwilwyr yn credu y gellid defnyddio diheintio microdon mewn sefyllfaoedd brys er mwyn mynd ar ôl materion cyflenwi, a chynyddu'n sylweddol nifer yr anadlyddion sydd ar gael i staff rheng flaen.
Yn yr astudiaeth, cafodd anadlyddion eu rhoi trwy gylchoedd diheintio microdonnau, a dangoswyd eu bod yn gallu parhau â'u gallu i hidlo bacteria ac erosolau maint feirysol. Fodd bynnag, nododd yr ymchwilwyr bod rhoi masgiau llawfeddygol mewn microdonnau yn golygu eu bod yn colli'n llwyr eu gallu i hidlo erosolau.
Dywedodd Michael Pascoe, cyd-awdur yr astudiaeth a myfyriwr ymchwil yn yr Ysgol Peirianneg: "Gwn bod masgiau llawfeddygol yn llai effeithiol unwaith y maent yn gwlychu - roeddem yn amau y byddai diheintio mewn microdon yn arwain at golli eu gallu i hidlo erosolau. Cafodd hyn eu cadarnhau yn ein gwaith labordy."
Ymchwiliodd y tîm hefyd i ddefnyddio poptai gwres sych fel dull arall. Nid yw sterileiddio gwres sych yn cynnwys unrhyw ddŵr ac felly mae'n gweithio'n dda gydag eitemau sy'n cael eu difrodi gan leithder.
Roedd bod mewn gwres sych 70°C am 90 munud yn effeithiol ar gyfer diheintio masgiau llawfeddygol ac anadlyddion. Ar ôl tri chylch gwres sych, cadwodd y ddau fath o fasg eu priodweddau hidlo erosol.
Mae'n hanfodol bod PPE yn cael ei ddiheintio'n effeithiol rhwng defnyddiau. Er y dangoswyd bod stêm a gwres sych a gynhyrchir gan ficrodon yn lladd coronafirysau yn effeithiol, roedd yr ymchwilwyr eisiau sicrhau bod y dull hwn hefyd yn effeithiol yn erbyn bacteria y deuir ar eu traws mewn amgylcheddau gofal iechyd.
Yn yr astudiaeth, cafodd anadlyddion a masgiau llawfeddygol eu halogi'n bwrpasol â Staphylococcus aureus, rhywogaeth facteriol sy'n gyffredin iawn mewn llwybrau anadlu dynol a all achosi heintiau meinwe meddal a sepsis. Staphylococcus aureus hefyd yw'r dangosydd biolegol cymeradwy ar gyfer profi effeithiolrwydd masg.
Lleihaodd y ddau ddull nifer y bacteria ar fasgiau i lefel ddiogel yn effeithiol.
O ganlyniad i'r astudiaeth, mae'r tîm wedi datblygu protocol i bennu pa fathau o PPE fyddai'n addas ar gyfer gwahanol driniaethau gyda deoryddion gwres sych neu ficrodonnau.
“Mae modelau masg ac anadlyddion yn amrywio'n sylweddol ac felly mae'n bwysig sicrhau nad yw'r dull diheintio'n cyfaddawdu eu swyddogaeth.
Mae'r tîm yn rhybuddio aelodau'r cyhoedd rhag defnyddio dull tebyg gartref.
Dywedodd Michael Pascoe: "Fel arfer mae microdonnau cartref yn defnyddio llai o bŵer, tua 800 W, ac yn defnyddio trofyrddau sy'n cylchdroi yn hytrach nag antena. Byddai angen amseroedd amlygiad sylweddol hirach i sicrhau canlyniadau tebyg ac nid yw'n hysbys sut y byddai hyn yn effeithio ar weithrediad y masg. Gall masgiau sy'n cynnwys gwifrau tenau hyd yn oed fynd ar dân wrth eu rhoi mewn microdon.”