Dechrau Pŵer Rhufain
3 Rhagfyr 2020
Archwiliwyd ymddangosiad cynnar Rhufain i bŵer ymerodrol yn y gyntaf mewn cyfres newydd ar Rufain Hynafol
Ymddangosiad Rhufain fel pŵer ymerodrol yw canolbwynt y llyfr diweddaraf gan dîm Hanes yr Henfyd yng Nghaerdydd. Yn ei lyfr newydd, mae Guy Bradley, Athro Hanes Rhufeinig a Hanes Cynnar yr Eidal yn manylu ar sut y datblygodd Rhufain o anheddiad bach ar y Tiber i fod y ddinas-wladwriaeth fwyaf pwerus yn yr Eidal yn ystod canrifoedd cyntaf ei bodolaeth.
Mae'r llyfr, a lansiwyd yr wythnos hon o Gaerdydd, yn archwilio'r rhesymau dros ymddangosiad a llwyddiant Rhufain o fewn amgylchedd Eidalaidd cystadleuol iawn, a faint oedd yn ddyledus i'w chymdogion.
Mae'r gyfrol gyntaf yn The Edinburgh History of Ancient Rome yn esbonio faint o nodweddion allweddol Rhufain, megis ei
grŵp dethol llywodraethol pwerus, ei sefydliadau gwleidyddol sefydlog, ei hagwedd agored at bobl o'r tu allan, a'i chymdeithas filwrol ddwys, a luniwyd gan eu gwreiddiau yn y frenhiniaeth a Gweriniaeth gynnar.
Gan gwmpasu cynnydd Rhufain o gymuned ar raddfa fach i oruchafiaeth yng nghanol yr Eidal, mae'r astudiaeth newydd hon yn defnyddio'r dystiolaeth archeolegol ddiweddaraf i ddangos natur soffistigedig a chosmopolitaidd Rhufain gynnar.
Yn ei ymchwil eang, mae'r Athro Guy Bradley wedi canolbwyntio ar hanes ac archeoleg yr Eidal a Rhufain yn ystod y mileniwm cyntaf CC, gan ddefnyddio dulliau sy'n tynnu ar astudiaethau hanesyddol ac anthropolegol cymharol a'r defnydd integredig o ffynonellau archaeolegol, epigraffig a llenyddol.
Early Rome to 290BC: Cyhoeddir The Beginnings of the City and the Rise of the Republic gan Wasg Prifysgol Caeredin.