Gostyngiad enfawr yng nghyllid COVID-19 ar gyfer Cyllideb Cymru yn dilyn Adolygiad Gwariant y DG, yn ôl adroddiad
3 Rhagfyr 2020
Bydd cyllid sy’n hanfodol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, busnesau ac unigolion yn sgil COVID-19, yn gostwng yn sylweddol y flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiad newydd gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
Bydd y cyllid sydd ar gael ar gyfer ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 yn gostwng o £5.6 biliwn yn 2020-21 i ddim ond £766 miliwn y flwyddyn nesaf. Er bod gobaith y bydd y pwysau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn lleihau y flwyddyn nesaf, gall y cyllid a ddisgwylir o dan gynlluniau presennol llywodraeth y DG fod yn annigonol i gwrdd â chostau a galwadau ychwanegol ar gyllideb Cymru.
Mae'r Canghellor hefyd wedi cwtogi ar gynlluniau gwario nad ydynt yn gysylltiedig â COVID dros y blynyddoedd i ddod, hyd yn oed yn wyneb pwysau gwario ychwanegol. Erbyn canol tymor nesaf Senedd Cymru, bydd gwariant y pen yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y cyfnod llymder. Os bydd y cynnydd mewn gwariant ar y GIG yn unol â’r hyn sy’n cael ei fwriadu yn Lloegr, bydd gwariant Llywodraeth Cymru ar bopeth arall y tu hwnt i’r GIG yn parhau 8% yn is na lefelau 2010-11, hyd yn oed erbyn 2023-24.
Mae'r adroddiad hefyd yn mynegi pryderon ynghylch y gyfran o wariant trafnidiaeth y DG y bydd Cymru'n ei derbyn dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r penderfyniad i drin HS2 fel prosiect 'Cymru a Lloegr' a chynnwys gwariant Network Rail – sydd heb ei ddatganoli – yng nghyfrifiadau’r fformiwla Barnett yn golygu y gallai cyllideb Cymru fod ar ei cholled o £500m o gyllid canlyniadol erbyn 2025-26, o'i gymharu â dull rhesymol arall o gyfrifo.
Dywedodd Guto Ifan:
"Mae Adolygiad Gwariant y DG wedi dod â ni wyneb yn wyneb â ffeithiau oer y sefyllfa. Ar ôl y cynnydd enfawr rydym ni wedi’i weld yng nghyllideb Cymru eleni er mwyn ymateb i COVID-19, mae’r cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn eithaf llym. Bydd cyllid COVID-19 yn gostwng yn sydyn y flwyddyn nesaf, er bod disgwyl i’r pwysau sy’n deillio o’r pandemig barhau.
"Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 y mis hwn, mae'n wynebu ansicrwydd cynyddol. Mae'n destun rhwystredigaeth o hyd nad oes gan Lywodraeth Cymru yr arfau i reoli'r sefyllfa, megis mwy o bwerau dros fenthyca a‘r gallu i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn eleni."
Ychwanegodd Cian Sion:
“Mae cynlluniau'r Adolygiad Gwariant yn golygu bod y rhagolygon ar gyfer cyllideb Cymru yn llawer mwy digalon a bod perygl y bydd rhai gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu llymder unwaith eto. Mae gan hyn oblygiadau dirfawr o ran yr hyn y bydd y pleidiau yn gallu ei addo cyn etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf.
“Gallai cynyddu’r dreth incwm ddatganoledig fod yn ddewis amgen mwy blaengar na chodiadau sylweddol mewn biliau Treth Gyngor dros y blynyddoedd nesaf. Ond mae angen trafodaeth aeddfed ar lawr gwlad am lefel y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym am eu cael yng Nghymru yn sgil COVID a sut y gallwn eu hariannu'n ddigonol.”