Yr Athro Syr John Meurig Thomas FRS (1932 – 2020)
2 Rhagfyr 2020
Mae'n flin gennym gyhoeddi y bu farw'r Athro Syr John Meurig Thomas FRS, oedd yn Athro Nodedig Anrhydeddus yn yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2005.
Roedd Syr John Meurig Thomas yn un o wyddonwyr mwyaf nodedig a dylanwadol ei genhedlaeth, ac yn arloeswr ym meysydd Cemeg Cyflwr-Solet a Chatalysis Heterogenaidd. Cafodd effaith sylweddol ar ddatblygu'r meysydd ymchwil hynny, yn ogystal â chwarae rôl sylweddol o ran poblogeiddio gwyddoniaeth, ac ysbrydoli llawer o wyddonwyr ifanc yn eu gyrfaoedd gwyddonol.
Ganwyd John Meurig Thomas yn fab i löwr yng Nghwm Gwendraeth, De Cymru, a graddiodd gyda graddau BSc a PhD Cemeg o Goleg y Brifysgol Abertawe. O 1958, roedd ganddo swyddi academaidd ym Mhrifysgol Cymru, fel Darlithydd i ddechrau ym Mangor ac yna (o 1969 ymlaen) fel Athro yn Aberystwyth. Yn 1978, cafodd ei benodi'n Athro a Phennaeth yr Adran Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn cymryd rôl glodfawr Cyfarwyddwr Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr yn 1986. Yna, cafodd ei benodi'n Feistr Peterhouse (Coleg hynaf Caergrawnt, a'r gwyddonydd cyntaf i gael ei benodi'n Feistr), cyn derbyn penodiadau anrhydeddus yn Adran Gwyddoniaeth Faterol Prifysgol Caergrawnt ac Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd.
Fel pob gwyddonydd llwyddiannus, esblygodd ymchwil Syr John drwy feysydd gwahanol ar adegau gwahanol o'i yrfa. Roedd ei ymchwil ym Mangor ac Aberystwyth yn y 1960au a'r 1970au yn canolbwyntio ar nodweddu diffygion deunyddiau crisialaidd, a hwyluswyd drwy ei ddefnydd arloesol o ficrosgopeg electron, gan arwain at ddarganfyddiadau newydd ar rôl diffygion o ran rheoli adweithedd deunyddiau organig. Yng Nghaergrawnt, symudodd ei ymchwil tuag at astudio seolitiau a deunyddiau solet microhydaidd eraill, gan arwain at fewnwelediadau dwfn i nodweddion strwythurol, ffisegol a chatalytig y solidau hyn sy'n bwysig yn dechnolegol, drwy ddefnyddio cyfuniad pwerus o dechnegau arbrofol. Esblygodd ei waith ar gatalysis heterogenaidd ymhellach yn y Sefydliad Brenhinol, yn enwedig drwy weithio gydag eraill er mwyn ecsbloetio synergedd technegau'n seiliedig ar syncrotron a dulliau cyfrifiadurol newydd sbon er mwyn pennu dealltwriaeth sylfaenol gadarn o nodweddion ffisegol-gemegol deunyddiau catalytig. Roedd ganddo rôl arweiniol o ran datblygu a rhannu'r cysyniad o gatalysis heterogenaidd ar un safle, sydd wedi arwain at ddylunio cenedlaethau newydd o gatalyddion solet sydd wedi galluogi'r datblygiad o brosesau cemegol cynaliadwy sy'n fanteisiol yn amgylcheddol ("gwyrdd").
Efallai mai uchafbwynt gyrfa wyddonol Syr John oedd ei gyfnod fel Cyfarwyddwr y Sefydliad Brenhinol, gan ddilyn olion troed ei arwr gwyddonol pan roedd yn blentyn, Michael Faraday, oedd yn yr un swydd rhwng 1825 ac 1867. Galluogodd y swydd flaenllaw hon ym maes gwyddoniaeth y DU Syr John i barhau i fwrw ymlaen â'i ymchwil mewn labordy penigamp (gan gydweithio gyda Syr Richard Catlow FRS, oedd yn Athro Wolfson yn y Sefydliad Brenhinol ar yr adeg), drwy gyflawni hefyd ei angerdd arall, sef hyrwyddo ymgysylltiad cyhoeddus â gwyddoniaeth. Cafodd llawer o wyddonwyr ifanc eu hysbrydoli gan frwdfrydedd amlwg Syr John am wyddoniaeth, oedd yn glir i'w weld yn Narlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol gafodd eu darlledu (a gyflwynwyd ar y cyd â'r Athro David Phillips FRS) yn 1987, ac yn ei lyfr "Michael Faraday and the Royal Institution: The Genius of Man and Place", a gyhoeddwyd yn 1991 i anrhydeddu ei arwr gwyddonol ar achlysur 200 mlynedd ers ei enedigaeth.
Roedd Syr John yn awdur toreithiog iawn (gan gyhoeddi mwy na 1,100 o bapurau gwyddonol) ac yn ddarlithydd ysbrydoledig a deinamig. Roedd yn cael ei edmygu'n fawr am huodledd a naws farddol ei eiriau a'i waith ysgrifenedig, ac am fod yn garismataidd wrth hyrwyddo gwyddoniaeth ledled y byd. Derbyniodd sawl gwobr ac anrhydeddau mawreddog yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Medal Brenhinol y Gymdeithas Frenhinol yn 2016, a chafodd ei urddo'n farchog yn 1991 "am wasanaethau i gemeg a phoblogeiddio gwyddoniaeth".
Yn Gymro i'r carn, roedd Syr John yn adlewyrchu ethos gweithgar a pharch am addysg oedd yn werthoedd critigol o fewn cymuned mwyngloddio ei fagwraeth yn Ne Cymru. Roedd yn siaradwr Cymraeg, gan ddysgu Saesneg yn yr ysgol, ac roedd ei gefnogaeth angerddol i ddiwylliant, iaith a llenyddiaeth Cymru yn gryf iawn gydol ei yrfa wyddonol nodedig.
Roedd Syr John wastad yn ystyried y cyfle i gael gyrfa mewn ymchwil wyddonol yn fraint ac yn angerdd, a bydd gan bawb atgofion melys ohono a'i frwdfrydedd amlwg dros wyddoniaeth, yn ogystal â'r ffordd yr oedd yn trin pawb yn gwrtais, yn ddiymhongar a gyda pharch. Yn ystod ei ymweliadau rheolaidd i Brifysgol Caerdydd fel Athro Anrhydeddus, roedd yn cyfarch pawb fel ffrind a chydweithiwr, yn enwedig y staff yn gweithio yn ffreutur a siop goffi'r Prif Adeilad, a'r holl fyfyrwyr PhD ac ôl-ddeothurol wnaeth gwrdd ag ef yn yr Ysgol Cemeg - roedd Syr John wastad yn awyddus i glywed canlyniadau diweddaraf eu hymchwil, ac yn barod iawn i roi arweiniad call a chyngor hawl.
Er gwaethaf ei iechyd yn gwaethygu mewn misoedd diweddar, parhaodd Syr John i weithio'n frwd dros wyddoniaeth tan ei ddyddiau olaf. Mae ei lyfr diwethaf ar hanes gwyddoniaeth, "Architects of Structural Biology: Bragg, Perutz, Kendrew, Hodgkin", a gyhoeddwyd yn 2020, yn rhoi mewnwelediadau diddorol iawn i'w gyfeillgarwch personol â'r gwyddonwyr eiconig wnaeth ddatblygu'r maes Bioleg Strwythurol. Ac yn gyd-ddigwyddiad addas iawn, cyhoeddwyd papur arloesol yn Nature Catalysis, ar ddadadeiladu gwastraff plastig i hydrogen a charbonau gwerthfawr, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Syr John, yr Athro Peter Edwards FRS a chydweithwyr (Prifysgol Rhydychen), a Dr Daniel Slocombe (Prifysgol Caerdydd), ar y diwrnod y bu farw Syr John.
Cyfoethogodd Syr John Meurig Thomas fywydau pawb oedd â'r fraint o'i adnabod, a bydd colled mawr ar ei ôl ymysg ei ffrindiau, cydweithwyr a phartneriaid o bob rhan o'r byd. Ond, cysur yw gwybod y bydd etifeddiaeth wyddonol Syr John yn dal i fyw.