Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilio i rôl rhwystrau sy’n gollwng wrth liniaru llifogydd

1 Rhagfyr 2020

LeakyBarriersValentine
Rhwystrau sy’n gollwng © Valentine Muhawenimana

Bu’r trefniant cydweithio hwn rhwng disgyblaethau yn ymchwilio i rôl rhwystrau sy’n gollwng wrth liniaru llifogydd, a bydd yn darparu argymhellion ymarferol i randdeiliaid.

Ar hyn o bryd, llifogydd yw un o’r trychinebau naturiol sy’n costio fwyaf o safbwynt sosio-economaidd. Nod rheoli llifogydd yn naturiol yw gwella dulliau traddodiadol o reoli risg llifogydd trwy ddefnyddio prosesau naturiol fel pyllau storio, plannu coetir a rhwystrau sy’n gollwng, ar raddfa dalgylch.

Lluniwyd rhwystrau sy’n gollwng a grewyd gan bobl i efelychu argaeau afancod a thagfeydd coed neu argaeau malurion pren. Mae rhwystrau sy’n gollwng yn rhwystro llif yr afon yn rhannol neu’n llwyr trwy ei ddargyfeirio i orlifdiroedd, sy’n gwella gallu’r gorlifdir i’w storio ac yn cynyddu’r ymdreiddiad i’r tir. Mae hynny’n arafu’r llif ar yr wyneb ac yn lleihau’r llifogydd i lawr yr afon.

Mae rhwystrau sy’n gollwng hefyd yn helpu i adfer cynefinoedd afonol sy’n dirywio, trwy ddarparu llochesi a chysgod ar gyfer pysgod, gwella ansawdd y dŵr, a dal gwaddod, deunydd organig a maetholion.

Arweiniwyd y prosiect ymchwil hwn gan dîm rhyngddisgyblaeth oedd yn cynnwys y myfyriwr PhD Valentine Muhawenimana a Dr Catherine Wilson, sydd fel ei gilydd yn dod o’r Ysgol Peirianneg a’r myfyriwr israddedig Jelena Nefjodova a’r Athro Jo Cable o Ysgol y Biowyddorau, pawb ohonynt â chysylltiad â’r Sefydliad Ymchwil Dŵr.

Roedd y gwaith ymchwil hwn ar y cyd yn gyfle gwych ar gyfer hyfforddiant rhyngddisgyblaeth, ac arweiniodd at estyn ymchwil yn ehangach i randdeiliaid o wahanol ddisgyblaethau.

Dr Catherine Wilson Senior Lecturer - Teaching and Research

Am y tro cyntaf, bu’r tîm yn mesur y newidiadau hydrolig i brosesau llif a achoswyd gan rwystrau sy’n gollwng. Mae’r newidiadau hyn yn golygu bod proffil y dŵr arwyneb i fyny’r afon yn newid, gan gyfeirio’r llif i orlifdiroedd, a lleihau lefelau’r dŵr i lawr yr afon. Yng nghafn labordy Prifysgol Caerdydd, bu’r ymchwilwyr yn cynnal profion arbrofol ar fathau gwahanol o rwystrau sy’n gollwng yng nghyd-destun dwy set o amgylchiadau llifogydd.

FlumeLeakyBarriers
Gwerthuso perfformiad rhwystrau sy’n gollwng yng nghafn y labordy © Valentine Muhawenimana

Dangosodd y canlyniadau fod y rhwystrau sy’n gollwng wedi cynyddu ardal llif y dŵr i fyny’r afon rhwng 0 a 30%. Bydd mathau o rwystrau sy’n gollwng sy’n mwyafu’r rhwystr yn y sianel yn arafu’r llif yn ystod llifogydd, gan achosi oedi yn yr amser mae’n cymryd i uchafbwynt y llifogydd gyrraedd cymuned i lawr yr afon.

Creodd rhwystrau heb dyllau o leiaf ddwywaith cymaint o lifeiriant yn yr ardal o gymharu â’u cymheiriaid tyllog. Mae hyn yn dangos y bydd deunydd organig a gwaddodion sy’n cronni, fydd yn golygu bod y rhwystrau’n dal mwy o ddŵr, yn cynyddu gallu’r rhwystrau sy’n gollwng i storio dŵr llifogydd a lliniaru llifogydd i lawr yr afon dros amser.

Mae’r cyhoeddiad llawn ar gael yn y Journal of Hydrology.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.