Her COVID Timpson
14 Gorffennaf 2020
Bu Prif Weithredwr Timpson, un o brif ddarparwyr gwasanaeth manwerthu'r DU yn rhannu safbwynt unigryw ar y rhwystrau a'r cyfleoedd yn sgil pandemig coronafeirws (COVID-19) yn y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd.
Mewn cyfweliad rhithwir gyda Dr Deborah Hann, Uwch-ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, dechreuodd James Timpson OBE drwy ddisgrifio ethos y sefydliad.
“Busnes teuluol ydym ni,” dywedodd. “Mae pedair mil a hanner i bum mil o gydweithwyr yn rhan o'n teulu ac rydym ni'n eu trin nhw felly.”
Un o nodweddion Timpson yw'r hyn maen nhw'n ei alw'n ddull rheoli wyneb i waered.
“Gallech chi ddweud ein bod ni'n gwmni go anarferol yn y ffordd rydym ni'n ei redeg. Ond rydym ni'n ceisio cadw pethau'n syml. Yn y bôn mae'n ddiwylliant o ymddiriedaeth a charedigrwydd,”esboniodd James.
Mae'n ethos sydd, yn ôl James, wedi arwain y sefydliad i ddod o hyd i gynifer o gydweithwyr rhyfeddol, yn cynnwys 10% sydd wedi ymuno drwy Sefydliad Timpson, ar ôl gadael y carchar.
“Roedd rhaid i ni fod yn ddyfeisgar”
Ar ôl rhoi darlun clir o ddiwylliant Timpson, gofynnodd Dr Hann i James ehangu ar y ffyrdd mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar y sefydliad.
Er bod y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu fel caledwedd, torri allweddi, sychlanhau a londri'n cael eu cyfrif yn wasanaethau hanfodol, esboniodd James nad oedd y sefydliad eto'n barod i fasnachu dan y cyfyngiadau newydd.
“Felly caeon ni ein siopau i gyd ac aeth pawb adref,” dywedodd.
Ac eto, fel yr esboniodd James, roedd effaith gwahanol ar bob busnes gyda theithio a lletygarwch ymhlith y rhai a gafodd yr ergyd waethaf.
Fodd bynnag, fel busnes elw uchel a chost uchel, aeth llif arian a gwerthiant drwy'r llawr. Ar y llaw arall, parhaodd seiri cloeau Timpson i weithio, fel y gwnaeth eu busnes ffotograffau ar-lein a berfformiodd yn dda iawn yn ystod y cyfnod clo.
Ond yn raddol, dechreuodd Timpson agor eu siopau unwaith eto.
“Fel manwerthwr, fel arfer chi yw'r cyntaf i mewn a'r cyntaf allan,” dywedodd James.
“Dechreuon ni agor rhai siopau gan ddysgu sut mae cyfarpar diogelu personol yn gweithio a sut y byddai cydweithwyr a chwsmeriaid yn ymddwyn. Ac ers hynny mae gwerthiant ar i fyny'n araf.”
Senario Dydd y Farn
Cyn derbyn cwestiynau gan y rhai oedd yn bresennol, gofynnodd Dr Hann i James ddisgrifio cynlluniau'r sefydliad am ail don bosibl o gyfyngiadau clo.
“Rwy'n hoffi rhedeg y busnes yn eithaf ceidwadol,”dywedodd James. “Gydag arian yn y banc, dim dyledion a'r gallu i wneud penderfyniadau ar ein telerau ein hunain.”
Fodd bynnag, fel cynifer o fusnesau eraill, mae Timpson wedi gorfod ymgymryd â chyfleuster bancio sylweddol gan ragfynegi digon o le ar gyfer 'senario dydd y farn' dwbl neu hyd yn oed driphlyg.
Daeth Dr Hann â'r cyfarfod i ben gyda sesiwn holi ac ateb ar arweinyddiaeth, ethos tîm, cadw staff, cymhelliant, marchnadoedd manwerthu ar-lein, ailagor, y normal newydd, gwerth cymdeithasol a dyfodol y Stryd Fawr.
Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.
Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.
Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.