Effeithiau economaidd-gymdeithasol COVID-19 ar gymunedau BAME
10 Medi 2020
Adfyfyrion ac argymhellion o adroddiad Llywodraeth Cymru ar effeithiau cymdeithasol ac economaidd COVID-19 ar gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig (BAME) oedd ffocws y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Hysbysu Brecwast Ysgol Busnes Caerdydd.
Dechreuodd Emmanuel Ogbonna, Athro Rheoli a Threfnu yn Ysgol Busnes Caerdydd ac awdur yr adroddiad, y cyfarfod drwy adfyfyrio ar y difrod a grëwyd gan bandemig coronafeirws (COVID-19).
“Ond ar yr un pryd,” dywedodd, “Mae'r pandemig hefyd wedi arwain at ddadansoddi a thrafodaeth ddifrifol ar faterion sy'n effeithio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, efallai'n fwy nag erioed o'r blaen.”
Ddechrau mis Mai eleni, gofynnodd y Prif Weinidog i'r Athro Ogbonna ac aelodau o Is-grŵp Economaidd Gymdeithasol COVID-19 BAME ymchwilio i effeithiau anghymesur COVID-19 ar gymunedau BAME yng Nghymru.
Profiad bywyd BAME
Cyn rhannu canfyddiadau'r adroddiad a gynhyrchwyd dros amser, amlinellodd yr Athro Ogbonna rai o'r cafeatau'n ymwneud â therminoleg a nodweddion profiad COVID-19.
Trafododd y term BAME, gan gydnabod ei fod yn derm problematig i rai. Fodd bynnag, sail resymegol y grŵp dros ei ddefnyddio yw ei fod yn mynd peth o'r ffordd i geisio cynrychioli grwpiau niferus o bobl ac o ganlyniad mae'n chwalu'r syniad fod y cymunedau hyn yn gyfanrwydd homogenaidd.
Ychwanegodd yr Athro Ogbonna er y gallai nodweddion fel tlodi a dosbarth fod yn ffactorau fyddai'n pennu profiad unigolyn o'r pandemig coronafeirws (COVID-19), roedd ffocws yr adroddiad wedi'i ganoli'n benodol ar brofiad bywyd BAME.
Gan droi at y ffyrdd y caiff y gwahaniaethau hyn eu cyflwyno i ymwybyddiaeth y cyhoedd, esboniodd yr Athro Ogbonna sut yr adroddodd y cyfryngau mai’r rheswm am effeithiau anghymesur COVID-19 oedd gweithredoedd ac ymddygiad y gymuned BAME.
Gan gyfeirio at astudiaeth yn The Lancet, oedd yn edrych ar gyflyrau sylfaenol fel diabetes, dementia ac eraill, sicrhaodd yr Athro Ogbonna'r mynychwyr nad oedd y dystiolaeth yn cefnogi'r honiadau a wnaed yn y mathau hyn o adroddiadau ar y cyfryngau.
Dywedodd: “Fodd bynnag, roedd yn amlwg bod rhywbeth yn rhywle yn achosi cyfraddau marwolaeth uwch ond na allem o reidrwydd ei esbonio drwy edrych ar ethnigrwydd yn unig.
“Ac felly, roedd mewn gwirionedd yn briodol i ni ymgymryd â'r astudiaeth hon ac roedd comisiynu'r adroddiad hwn a chymryd y mater o ddifrif yn weithred hynod o gadarnhaol gan y Prif Weinidog”.
Cofnodion anghyflawn, anghywir ac annigonol
Ansawdd yr wybodaeth sydd gan sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat ar eu gweithwyr BAME oedd ffocws rhan nesaf cyflwyniad yr Athro Ogbonna.
Y peth cyntaf a darodd yr is-grŵp yn eu hymchwiliadau yn yr adroddiad oedd diffyg gwybodaeth o safon ar ethnigrwydd. Ymhlith y rheini oedd â chofnodion anghyflawn, anghywir ac annigonol oedd y GIG a sefydliadau gofal iechyd eraill, yn ogystal â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.
“Does dim digon gennym ni,” nododd yr Athro Ogbonna.
“Felly doedden ni ddim yn gwybod i sicrwydd pwy oedd yn marw na ble oedden nhw'n marw. Ac mae hyn yn arwyddocaol oherwydd os nad yw'r wybodaeth hon gennych chi sut ydych chi'n gwybod bod eich gwasanaethau'n deg a bod pob aelod o'ch cymuned yn elwa o'r hyn rydych chi'n ei ddarparu?”
Yn ogystal â diffyg gwybodaeth ar ethnigrwydd, dadleuodd yr Athro Ogbonna hefyd fod y llwybrau cyflogaeth a ddewiswyd neu a ystyriwyd yn hygyrch i lawer o aelodau'r gymuned BAME yn aml yn eu hamlygu i elfennau gwaethaf COVID-19. Mae'r rhain yn cynnwys rolau fel meddygon locwm, nyrsys, gyrwyr bws a thacsi neu weithwyr llinell flaen eraill.
Roedd yr Athro Ogbonna'n categoreiddio heriau cyflogaeth fel y rhain, ynghyd â materion eraill fel pryderon pobl ifanc, pwysau ariannol a thrais domestig er enghraifft, yn brofiadau generig.
Cyn cau'r sesiwn hysbysu, talodd yr Athro Ogbonna sylw penodol i ganfyddiadau pwysig yr adroddiad oedd yn ymwneud yn benodol ag aelodau o'r gymuned BAME. Tynnwyd y rhain o drafodaethau ar y canlynol:
- Byw gyda hiliaeth yng Nghymru
- Anghydraddoldeb strwythurol a systemig.
Gan gyfeirio at arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain NatCen, esboniodd yr Athro Ogbonna bod 26% o bobl yn y DU yn uniaethu 'ychydig' yn rhagfarnllyd neu'n rhagfarnllyd 'iawn', a thystiolaeth o Arolwg Cymdeithasol Ewrop a ganfu canfyddiadau gwahaniaethol am ddeallusrwydd ac etheg gwaith cymunedau BAME.
Cyn derbyn cwestiynau gan y rheini oedd yn bresennol, gorffennodd yr Athro Ogbonna drwy amlinellu rhai o'r 30+ o argymhellion yn yr adroddiad.
Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.
Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.
Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.