Cafodd y cyfnod atal byr yng Nghymru yr “effaith a fwriadwyd” ar symudedd, yn ôl dadansoddiad newydd
24 Tachwedd 2020
Bu cwymp sylweddol mewn symudedd yng Nghymru yn sgil y cyfnod atal byr diweddar, yn ôl dadansoddiad o ddata Google Mobility gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
Mae offeryn rhyngweithiol newydd sydd wedi’i ddatblygu gan Dadansoddi Cyllid Cymru, un o raglenni ymchwil y ganolfan, yn galluogi defnyddwyr i gymharu data awdurdodau lleol Cymru gyda’i gilydd a gyda’r DG gyfan. Dyma’r llwyfan hygyrch cyntaf sy'n caniatáu i aelodau o'r cyhoedd weld tueddiadau symudedd sy'n gysylltiedig â mesurau i atal Covid-19 yng Nghymru.
Mae'r data yn dangos bod cyfyngiadau’r cyfnod atal yng Nghymru wedi cael effaith sylweddol ar symudedd pobl fel y bwriadwyd, gan leihau ymweliadau â mannau manwerthu a hamdden, gweithleoedd a pharciau cenedlaethol, gan gynyddu'r amser a dreuliwyd mewn lleoliadau preswyl.
Yn groes i hynny, mae’r data yn dangos fod y cyfyngiadau clo lleol blaenorol wedi cael llai o effaith ar symudedd yn yr awdurdodau lleol a effeithiwyd, gan awgrymu naill ai bod gweithredu ar lefel genedlaethol yn fwy effeithiol neu nad oedd y cyfyngiadau lleol mor llym.
Mae'r data hefyd yn dadlennu bod ymweliadau â lleoliadau manwerthu a hamdden yng Nghymru wedi dychwelyd i lefelau cyn-Covid yn gyflymach ym mis Gorffennaf a mis Awst o’i gymharu â gweddill y DG wrth i gyfyngiadau Cymru gael eu llacio. Felly hefyd, ymweliadau â chaffis, bwytai a siopau yn dilyn cyfyngiadau’r cyfnod atal byr. Mewn cymhariaeth, mae lefelau ymweliadau yn Lloegr yn parhau i fod yn isel dros gyfnod y clo cenedlaethol yno.
Dywedodd datblygwr y teclyn rhyngweithiol, Cian Siôn:
"Mae'r data yn dangos i’r cyfnod atal yng Nghymru gael yr effaith a fwriadwyd drwy leihau symudedd a sicrhau bod pobl yn treulio mwy o amser gartref.
"Mae'n ymddangos bod y cyfyngiadau symud lleol a gyflwynwyd ym mis Medi a mis Hydref wedi cael llawer llai o effaith ar symudiadau pobl, yn enwedig gan fod y cyfyngiadau'n wahanol ac yn llai llym na’r rhai oedd mewn grym yn ystod y cyfnod atal byr.
"Mae'r tueddiadau hyn yn dangos yr effaith fawr y mae polisïau datganoledig yn ei chael ar fywydau pobl, yn enwedig yng nghyd-destun gwahaniaethau diweddar mewn polisi ar draws gwledydd y DG.
"Mae Google wedi rhyddhau’r data hwn i’r parth cyhoeddus ac mae ein ap gwe newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr gymharu symudedd o fewn Cymru mewn modd hygyrch am y tro cyntaf. Mae gwella hygyrchedd data ar Covid-19 ac economi Cymru yn un o brif amcanion ein rhaglen ymchwil."