Partneriaeth ar gyfer polisi cyhoeddus gwell
23 Tachwedd 2020
Caiff arloesi mewn polisi cyhoeddus ei seilio ar ymddiriedaeth dros amser. Ar ôl blynyddoedd o weithio ar y cyd, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a Phrifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth strategol er mwyn mynd ar ôl targedau a rennir ym mis Gorffennaf y llynedd. Yma, mae Ystadegydd Cenedlaethol y DU, yr Athro Syr Ian Diamond, ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, yn archwilio sut mae heriau COVID-19 wedi dod â'r ddau sefydliad yn agosach at ei gilydd.
'Ymhen ychydig dros flwyddyn, mae ein partneriaeth wedi adeiladu seiliau cryf ar dir cyffredin.
Fel cynhyrchydd annibynnol mwyaf y DU o ystadegau swyddogol a'i sefydliad ystadegol cenedlaethol cydnabyddedig, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn casglu ac yn cyhoeddi ystadegau ynghylch yr economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Fel sefydliad Grŵp Russell blaengar dim ond 10 milltir i ffwrdd, mae Prifysgol Caerdydd yn gryf o ran ymchwil ar sail data, o'r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data i SPARK - 11 o grwpiau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol sydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion arloesol i broblemau cymdeithasol.
Gyda’n gilydd, rydym wedi pennu nodau cyffredin. Mae gweithio'n agosach gyda'n gilydd wedi creu cyfleoedd i ddatblygu technegau gwyddorau data newydd a phrosiectau i helpu i hyrwyddo gwneud penderfyniadau'n well o ran polisi cyhoeddus. Mae'r rhain eisoes wedi cael effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol ledled y themâu Heneiddio'n Iach, Effaith Ranbarthol, Addysg a Sgiliau a Deallusrwydd Economaidd.
Flwyddyn yn ddiweddarach, gyda'n gilydd rydym wedi gallu cyhoeddi sawl menter gyffrous sydd nid yn unig yn datblygu ein galluoedd gwyddorau data, ond sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i'r genhedlaeth nesaf o ddadansoddwyr ac arloeswyr data.
Drwy gydol y pandemig, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'i thîm Gwyddorau Data ar y campws wedi bod yn gweithio i sicrhau bod gan y wlad yr wybodaeth orau er mwyn llywio'r ymateb i'r pandemig: mae lansio ac estyn yr arolwg o heintiau COVID-19 yn Lloegr, a chyhoeddiadau data COVID-19 am gymdeithas, marwolaethau ac economi’r DU wedi helpu’r wlad i gadw golwg ar effaith y feirws.
Gan gydweithio, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Phrifysgol Caerdydd wedi gallu ymchwilio ymhellach i ddeall yr effeithiau iechyd, cymdeithasol a rhanbarthol, gan wella'r wybodaeth sydd gennym eisoes gan ffynonellau presennol. Mae hyn yn cynnwys modelu mathemategol ac ymchwil i ategu'r cynllunio sydd ei angen ar gam lleddfu'r pandemig.
Mae Academi Gwyddorau Data Prifysgol Caerdydd wedi cael ei sefydlu i addysgu’r to nesaf o arbenigwyr yn y maes hwn. Bydd gwyddonwyr data, mathemategwyr ac arbenigwyr cyfrifiadura yn cydweithio ar brosiectau a data go iawn, gan gynyddu eu cyflogadwyedd a rhoi profiad 'byd go iawn' gwerthfawr iddynt gyda sefydliadau allanol.
Wedi'i lansio gyntaf gan Gampws Gwyddorau Data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a phartneriaid academaidd yn 2017, mae cwrs meistr mewn Dadansoddi Data i'r Llywodraeth (MDataGov) yn rhoi sgiliau blaengar sydd wir eu hangen i fyfyrwyr o ran echdynnu a thrin 'data mawr', all yn ei dro helpu busnesau a sefydliadau'r llywodraeth i wneud penderfyniadau gwell. Ymunodd Prifysgol Caerdydd â'r fframwaith ym mis Ebrill 2020, a bydd yn cynnig y rhaglen ar sail amser llawn.
Mae uwch ddarlithydd a ariennir ar y cyd hefyd wedi'i benodi i ddod â'r gwaith ynghyd, cynnal ymchwil gwyddorau data a dod â phrofiad ymchwil y brifysgol sydd â bri rhyngwladol i raglenni ymchwil gwyddorau data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, addysgu, ymchwil ac arloesedd.
Yn ogystal â'r penodiad hwn, mae'r ddau sefydliad wedi ymrwymo adnoddau ar gyfer 10 arweinydd thema strategol: byddant yn cydweithio i gyd-greu cyfleoedd ac ymchwil newydd i fwrw ymlaen â chenadaethau strategol y bartneriaeth er budd y cyhoedd.
Yn y flwyddyn sydd i ddod, mae potensial cyffrous i Dde Cymru ddod yn brif hwb Deallusrwydd Artiffisial a Data, gyda'r ddau sefydliad yn defnyddio eu harbenigedd ar y cyd.
O ystyried y cyflymder y gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Phrifysgol Caerdydd ymateb i bandemig COVID-19, rydym yn hyderus y bydd ein harbenigedd sefydliadol cyfunol yn gyrru'r bartneriaeth, drwy ddarparu prosiectau polisïau cyhoeddus unigryw gyda chefnogaeth mewnwelediad ifanc ac egni graddedigion talentog ac uchelgeisiol.
Mae heriau COVID-19 wedi rhoi neges glir i bawb sydd ynghlwm wrth bolisïau cyhoeddus. Dim ond drwy gydweithio’n agos, dealltwriaeth ar y cyd ac arbenigedd a rennir y gallwn ni ddatblygu'r dadansoddi data o safon er mwyn mapio dyfodol mwy eglur a lleddfu effaith y feirws."
Buddsoddiad a chyllid
Mae Cyfleuster Microsgopeg Electron newydd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI-EMF) a fydd yn yr Hwb Ymchwil Drosiadol (TRF) wedi'i sefydlu’n rhan o gynllun datblygu cyfalaf gwerth £300 miliwn y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Sefydliad Wolfson, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae CCI-EMF yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.