Gwella gofal canser yng Nghymru a’r tu hwnt
17 Tachwedd 2020
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre’r GIG yn cydweithio i ehangu ymchwil a sefydlu canolfan gydnabyddedig i hybu rhagoriaeth nyrsio, arbenigedd iechyd cysylltiedig a gwyddorau gofal iechyd ynghylch gofal ac ymchwil canser yng Nghymru a’r tu hwnt.
Un o nodau’r bartneriaeth yw penodi am dair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd Athro Nyrsio a ddaw yn Athro Nyrsio a Gofal Canser Rhyngddisgyblaethol Felindre, yn ogystal â Chymrawd Ymchwil Felindre. Mae’r bartneriaeth wedi’i sefydlu o ganlyniad i’r cymorth ariannol sydd ar gael i Elusen Canolfan Canser Felindre a Phrifysgol Caerdydd.
Bydd y rolau’n llunio rhaglen nyrsio o dan nawdd allanol, ymchwil proffesiynolion iechyd cysylltiedig a gwyddonwyr gofal iechyd i agweddau megis effaith triniaeth ar gleifion canser a datblygiad gofal diogel a thosturiol i gleifion canser sy’n agored i niwed ynghyd â’u teuluoedd gan anelu at ddechrau cywiro’r anghydraddoldeb ynghylch deilliannau canser - un o flaenoriaethau strategol Cynllun GIG Cymru 2020-23. Bydd hynny’n rhoi cyfleoedd newydd i staff Canolfan Canser Felindre i gydweithio ag ymchwilwyr mewn gwaith arloesol cyffrous.
Mae’r Athro Jane Hopkinson, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, wedi’i phenodi’n Athro Nyrsio a Gofal Canser Rhyngddisgyblaethol Felindre yn ddiweddar. Meddai’r Athro Hopkinson, “Mae’n dda gyda fi ysgwyddo’r rôl yma. Bydda i’n gweithio gyda nyrsys, proffesiynolion iechyd cysylltiedig a gwyddonwyr clinigol yng Nghanolfan Canser Felindre i gynyddu ein gallu i gynnal ymchwil a sefydlu canolfan ragoriaeth gydnabyddedig ar gyfer nyrsio ac ymchwil proffesiynolion iechyd cysylltiedig i ganser.”
“Mae partneriaeth Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre’r GIG ac Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn bwysig i ymchwil a fydd o les i gleifion a’u teuluoedd ym maes gofal canser. Mae gofal canser diogel o safon yn gysylltiedig â gweithgarwch ymchwil. Bydd y fenter newydd yn cryfhau cydberthynas Canolfan Canser Felindre â Phrifysgol Caerdydd.”
“Bydd yn ychwanegu at yr arbrofion niferus sydd ar waith yng Nghanolfan Felindre ynghylch trin a thrafod canser, gan alluogi gweithwyr heb gefndir meddygol i arwain ymchwil i’r cymorth cyfannol mae’i angen ar gleifion a’u teuluoedd yng Nghymru a’r tu hwnt.”
Meddai Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Proffesiynolion Iechyd Cysylltiedig a Gwyddonwyr Gofal Iechyd, “Mae’r bartneriaeth yma yn gyfle unigryw i helpu cynifer o’n staff ag y bo modd i gydio mewn ymchwil ac arloesi yn ogystal â gwella byd cleifion sy’n dioddef â chanser. Bydd y dull yma yn ychwanegu at yr ymchwil glinigol sylweddol sydd ar waith yn Felindre.”
Mae Ysgol y Gwyddorau Iechyd wedi gwahodd pobl i ymgeisio am rôl Cymrawd Ymchwil Felindre.