Gwobr yn sbarduno cydweithio ar draws y Ganolfan Ymchwil
17 Tachwedd 2020
Bydd Cyfleuster Microsgopeg Electron newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio ar draws disgyblaethau academaidd i ysgogi ymchwil – o ganlyniad i wobr newydd.
Bydd yr ystafell ymchwil bwrpasol – a fydd yn y Ganolfan Ymchwil Drosiadol newydd – yn ehangu ei gallu i baratoi samplau ar draws nifer o gryfderau ymchwil y Brifysgol.
Cydweithiodd aelodau o Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) â'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS), y grŵp ymchwil Deunyddiau Magnetig a Chymwysiadau (MAGMA), ac Ysgolion Gwyddorau’r Ddaear a'r Amgylchedd, y Biowyddorau a Pheirianneg i ennill £185 mil gan Gronfa Effaith Ymchwil EPSRC.
Bydd yr offer paratoi samplau newydd yn galluogi rhannu a mireinio ystod eang o ddeunyddiau organig ac anorganig fel meinweoedd biolegol, polymerau, metelau, lled-ddargludyddion, cerameg a samplau daearegol.
Ychwanegodd yr Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Mae'r wobr hon yn dangos gwerth yr EMF a'r Ganolfan Ymchwil Drosiadol (TRH) fel canolfannau lle mae ymchwilwyr mwyaf blaenllaw y byd yn dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid ar draws sectorau gan gynnwys ynni, gofal iechyd a deunyddiau uwch i feithrin arloesedd, galluogi cyfeiriadau ymchwil newydd a datblygu cynigion ariannu."
Dywedodd yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr CCI: "Bydd yr offer y gofynnir amdano yn datgloi gallu sydd heb ei wireddu eto yng nghanolfan ragoriaeth EMF. Bydd alinio anghenion nifer o weithrediadau a ariennir gan ERDF Llywodraeth Cymru yn helpu ymchwilwyr i hyrwyddo twf economaidd drwy ymgysylltu â busnesau, cynyddu'r broses o ennill grantiau, hyfforddi ac uwchsgilio ymchwilwyr a denu talent."
Mae'r wobr yn agor y drws i’r ICS ac CCI gydweithio yn y dyfodol. Bydd y ddau sefydliad – sy'n datblygu arbenigedd ymchwil i drawsnewid diwydiant - yn rhannu labordy o’r radd flaenaf a swyddfeydd yn y Ganolfan Ymchwil Drosiadol.
Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr, ICS: "Bydd datblygu ystafell arbenigol ar gyfer Microsgopeg Electron yn cyflymu'r effaith ym mhob maes ac yn cynnal cystadleurwydd yn y sectorau AU cenedlaethol a rhyngwladol."
Bydd yr EMF a’r Cyfleuster dadansoddi arwyneb XPS yn cael eu lleoli drws nesaf i’r TRH ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Disgwylir i’r ganolfan agor yn 2022.