Enillydd Cystadleuaeth Gyfansoddi i Gynfyfyrwyr 2020 wedi’i gyhoeddi
16 Tachwedd 2020
Mae Louise Chartron (BMus Cerddoriaeth 2019), wedi’i dewis fel enillydd y Gystadleuaeth Gyfansoddi i Gynfyfyrwyr 2020.
Mae’r gystadleuaeth, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, yn gwahodd holl gynfyfyrwyr a graddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth i gyflwyno cyfansoddiad gwreiddiol i’w berfformio gan un o ensembles yr Ysgol. Eleni, gwahoddwyd cyfansoddiadau ar gyfer ensemble y Gerddorfa Siambr.
Caiff y darn buddugol, The Penrose Steps, ei berfformio gan Gerddorfa Siambr Prifysgol Caerdydd yng ngwanwyn 2021, gyda’r ymarferion yn dechrau ddiwedd y mis hwn.
Ynghylch y darn, dywedodd Louise: “Mae The Penrose Steps yn darlunio cylch yr iselder a’r ewfforia sy’n dod dros llawer ohonom, mewn ffordd sy’n amlygu arwyddocâd y momentau hynny, sy’n cael eu bychanu fel arfer, o’r eglurder a’r cytgord yr ydym yn eu profi yn nghanol y tywyllwch a’r terfysg sy’n ymddangos yn ddiddiwedd.
Ar hyn o bryd mae Louise yn gweithio ar ddarn mwy arall ar gyfer cerddorfa, côr ac amryw offerynnau unawd gan obeithio ei droi’n concerto ar gyfer cerddorfa.
Dywedodd panel y beirniaid: “Roeddem yn falch iawn o dderbyn rhai ceisiadau rhagorol gan ein cynfyfyrwyr eleni. Fodd bynnag, darn Louise wnaeth yr argraff fwyaf arnom ni. Mae arddangos rhai nodweddion rhagorol: mae wedi’i ysgrifennu’n dda iawn ar gyfer y gerddorfa, gan godi llawer o heriau i’r adrannau pres, chwyth a tharo; mae hefyd yn arddangos techneg gyfansoddi solet, gyda theimlad o lif gwrthbwyntiol ffein a chyfeiriad ffurfiol a chynganeddol.”