A saif yr Alban lle safai? Taith yr Alban yn ôl i statws gwlad: Joanna Cherry QC i draddodi Darlith Flynyddol 2020
12 Tachwedd 2020
Bydd AS ac adfocad blaenllaw yr Alban, Joanna Cherry QC AS, yn traddodi Darlith Flynyddol 2020 Canolfan Llywodraethiant Cymru.
Joanna Cherry QC AS yw Llefarydd yr SNP ar Faterion Cartref a Chyfiawnder. Mae hi wedi cynrychioli De-Orllewin Caeredin fel AS ers 2015, a hi oedd yr ymgyfreithiwr arweiniol yn achos llwyddiannus 'Cherry', lle dyfarnodd y Goruchaf Lys i Senedd San Steffan gael ei ohirio’n anghyfreithlon yn 2019.
Mae Joanna Cherry yn un o'r lleisiau amlycaf yn San Steffan ar ddatblygiadau cyfansoddiadol. Bydd yn siarad ar adeg pan fo cynlluniau ar gyfer refferendwm annibyniaeth yn yr Alban ar fin cael eu rhoi ar waith, a bydd hi’n annerch y gynulleidfa am ddyfodol yr undeb – pwnc sy'n hanfodol bwysig i Gymru.
Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal ddydd Gwener 27ain Tachwedd rhwng 17:00 a 18:30, ac mae modd i unrhyw un gofrestru am ddim gan ddefnyddio’r ddolen hon.
Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd:
"Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn falch o gael croesawu Joanna Cherry i draddodi ein darlith flynyddol. Enillodd Joanna fri ar draws y Deyrnas Gyfunol yn sgil ei chyfraniadau miniog i’r dadleuon seneddol ynglyn â Brexit. Erbyn hyn mae hi’n chwarae rôl ganolog yn y drafodaeth oddi mewn i fudiad annibyniaeth yr Alban ynglyn â sut i fwrw’r maen i’r wal yn wyneb gwrthwynebiad ffyrnig Llundain – hyd yma, beth bynnag – tuag at gynnal ail refferendwm. O ystyried pwysigrwydd datblygiadau yn yr Alban i Gymru – ac yn wir, twf cyflym mudiad annibyniaeth Cymru dros y misoedd diwethaf – bydd ei darlith yn sicr o ennyn diddordeb eang."
Dywedodd Joanna Cherry QC AS:
"Mae'n anrhydedd mawr cael fy ngwahodd i gyflwyno Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn enwedig a hithau’n adeg hollbwysig i'm plaid a'm cenedl. Erbyn hyn, dengys arolwg barn ar ôl arolwg barn fod pobl yr Alban o blaid cynnal ail refferendwm ac i’r Alban ddod yn wlad annibynnol."