Gallai'r proffesiwn cyfreithiol fod yn fwy hygyrch i bobl anabl oherwydd y cynnydd mewn gweithio hyblyg
12 Tachwedd 2020
Mae ymchwil yn awgrymu y gallai cynnydd mewn gweithio o bell a gweithio hyblyg, ers pandemig COVID-19 wneud y proffesiwn cyfreithiol yn fwy hygyrch i bobl anabl.
Yn ôl arolwg o fwy na 100 o gyfreithwyr anabl gan y tîm ymchwil Anabledd Cyfreithiol ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Chymdeithas Cyfraith Cymru a Lloegr, roedd gweithio o gartref yn ystod pandemig COVID-19 wedi galluogi'r rhan fwyaf o ymatebwyr i reoli eu hanabledd yn fwy effeithiol.
Mae ei ganlyniadau yn dangos y byddai'n well gan 70% o'r rhai hynny arolygwyd weithio o bell yn yr hir dymor.
Yn ystod cyfnod clo COVID-19, dechreuodd llawer o gwmnïau a busnesau cyfreithiol a thimau mewnol ganiatáu staff weithio o gartref – addasiad rhesymol roedd llawer o gyfreithwyr anabl wedi gofyn amdano cyn y pandemig.
Dywedodd un ymatebydd: “Mae'n haws gweithio o gartref, gan fod pawb yn gwneud hynny, sy'n ddefnyddiol i mi. Gan fod pawb yn gofyn am addasiadau, mae'n normaleiddio gwneud hynny ar gyfer y rhai sydd ag anableddau sydd eu hangen."
Dywedodd Debbie Foster, prif ymchwilydd y prosiect Anabledd Cyfreithiol ac Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gweithio o gartref wedi rhoi mwy o reolaeth i bobl anabl dros sut maen nhw'n rheoli eu nam a'u hamgylchedd gwaith. Gwelsom fod llawer o bobl anabl yn profi lefelau uwch o ymddiriedaeth ac annibyniaeth yn ystod y cyfnod clo a bod hyfforddiant, datblygiad gyrfaol a rhwydweithio yn fwy cynhwysol a hygyrch.
Mae'r astudiaeth yn dangos nad oedd rhai agweddau ar weithio o bell yn fuddiol. Roedd profiadau o gyfweliadau swyddi o bell a phrofiadau gwaith yn amrywio, gyda llawer yn cyfeirio at broblemau technolegol a hygyrchedd profion ar-lein fel rhwystrau.
Mater allweddol arall a godwyd oedd addasiadau rhesymol – roedd 19% o ymatebwyr yn credu ei fod yn hawdd neu'n hawdd iawn gofyn am addasiadau rhesymol yn ystod y cyfnod a arolygwyd, o gymharu ag 18% a nododd eu bod wedi'i gweld hi'n anodd neu'n anodd iawn ac 17% nad oedd yn gwybod pa addasiadau oedd ar gael iddynt.
Dim ond 52% ddywedodd bod ganddynt addasiadau rhesymol ar waith eisoes cyn COVID-19.
Mae'n ddiddorol bod 9% ac 19% wedi datgelu eu hanabledd i'w cyflogwr presennol a'u cydweithwyr, yn y drefn honno, am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod clo. Nododd llawer bod cydweithwyr yn fwy cefnogol na chyflogwyr.
Dywedodd Llywydd Cymdeithas y Gyfraith, David Greene: “Mae ein hymchwil yn dangos yn glir bod gan fwy o weithio o bell ac yn hyblyg y potensial i wneud y proffesiwn cyfreithiol yn fwy hygyrch i gyfreithwyr anabl. Gobeithio bydd cwmnïau'n ystyried hyn wrth wneud cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer gweithio o bell.
“Fodd bynnag, mae'n peri pryder gweld nad oedd 17% o ymatebwyr yn gwybod pa addasiadau rhesymol allai fod o fudd iddynt. Yr addasiad mwyaf cyffredin y gofynnwyd amdano nad oedd yn cael ei ddarparu oedd hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd ar gyfer cydweithwyr. Dylai cwmnïau a busnesau cyfreithiol sicrhau y caiff addasiadau sy'n ceisio newid eu diwylliant a'u hagweddau – nid addasiadau i weithio corfforol ac o bell yn unig – eu hystyried yn eu cynlluniau amrywiaeth hir dymor.
Cynhaliwyd yr arolwg o 23 Gorffennaf i 16 Awst 2020 a gofynnwyd cwestiynau i 108 o ymatebwyr a oedd yn berthnasol i’w gwaith yn ystod y cyfnod rhwng y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020 a Gorffennaf/Awst 2020. Roedd yn gyfyngedig i gyfreithwyr anabl mewn hyfforddiant neu gyflogaeth neu a oedd yn chwilio am hyfforddiant a chyflogaeth, a oedd yn ystyried Cymdeithas Cyfraith Cymru a Lloegr fel eu corff proffesiynol.