Ewch i’r prif gynnwys

Fideo: Dyfodol gofal yng Nghymru

11 Tachwedd 2020

Cynhaliwyd webinar ar ddyfodol gofal yng Nghymru gan ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd ble cafodd y canfyddiadau diweddaraf am gyllido a diwygio’r sector eu cyflwyno.

Ymunodd Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Lance Carver o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru â Michael Trickey a Cian Siôn o raglen ymchwil Dadansoddi Cyllid Cymru, sy’n rhan o’r Ganolfan.

Mae fideo o’r digwyddiad a’r sleidiau a gyflwynwyd bellach ar gael ar-lein.

Rhannu’r stori hon