Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan newydd gwerth £4.3m i wella cynaliadwyedd diwydiant cemegol y DU

11 Tachwedd 2020

Chemical plant

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â phrifysgolion ledled y DU i chwyldroi'r ffordd y caiff adnoddau eu rheoli yn niwydiant cemegol y DU, sydd werth £32bn, ac adeiladu economi mwy gwyrdd, mwy effeithlon a chylchol.

Mae'r Ganolfan Amlddisgyblaethol Cenedlaethol ar gyfer Economi Cemegol Gylchol (NIC3E) gwerth £4.3m yn dwyn ynghyd saith o brifysgolion a dros 20 o bartneriaid diwydiannol a rhyngwladol i ddyfeisio ffyrdd o leihau ein dibynadwyedd ar fewnforio deunyddiau crai ar gyfer ein diwydiannau.

Catalysis yw'r broses o ddefnyddio cyfansoddiadau penodol iawn i gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion yn rhatach, glanach, mwy diogel a mwy cynaliadwy. Amcangyfrifir bod 90% o adweithiau cemegol yn cael eu cataleiddio, ac felly, mae wrth wraidd NIC3E.

Yn rhan o NIC3E, bydd tîm Prifysgol Caerdydd yn dylunio catalyddion i drawsffurfio cyfansoddion sy'n cael eu gwaredu yn gyfansoddion defnyddiol, megis ireidiau a thanwyddau.

Yn rhan o'r ffrydiau gwastraff nwyol, nod y Ganolfan yw dal y carbon deuocsid yn uniongyrchol, a'i drawsffurfio'n borthiant oleffin ffres. Oleffinau yw'r deunydd crai ar gyfer 70% o'r holl gynhyrchiant cemegol organig. Maent yn cael eu defnyddio i greu ffibrau synthetig, plastigau, toddyddion ac arbenigeddau gwerth uchel eraill.

Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn defnyddio efelychiadau cyfrifiadurol o'r radd flaenaf er mwyn sgrinio cannoedd o ddeunyddiau er mwyn gwella dyluniad catalyddion gwydn ac effeithlon.

Dywedodd arweinydd Prifysgol Caerdydd y prosiect, Dr Alberto Roldan Martinez, o'r Ysgol Cemeg: "Mae sylfaen NIC3E yn rhoi cyfle ardderchog i yrru newidiadau o ran galluoedd a chynaliadwyedd y diwydiannau gweithgynhyrchu cemegol, gan symud y DU yn nes at economi di-wastraff, wrth wella cystadleurwydd y sector gweithgynhyrchu."

Yn ogystal â datblygu technolegau trawsffurfiol newydd, bydd NIC3E yn gweithio gyda busnesau i wella pob agwedd ar y broses gweithgynhyrchu i leihau eu hôl-troed carbon.

Mae partneriaid y prosiect yn eang iawn, o gwmnïau rhyngwladol megis Exon Mobil, Shell a Unilever, Croda i BBaChau, mentrau cenedlaethol a lleol, gan gynnwys WRAP, er mwyn cynrychioli amrywiaeth ac ehangder llawn y diwydiant cemegol.

Bydd y Ganolfan hefyd yn edrych ar ffyrdd i annog y cyhoedd i dderbyn technoleg a chynnyrch adnewyddadwy drwy weithio gyda llunwyr polisïau i wella agweddau at yr economi gylchol.

"Mae datblygiad diwydiant cemegol cynaliadwy yn hanfodol i'r DU a'r byd, a bydd y datblygiadau gwyddonol a gynigir yn y prosiect cyffrous hwn yn allweddol er mwyn cyflawni'r targed hwn," dywedodd Syr Richard Catlow, aelod o tîm y prosiect o'r Ysgol Cemeg.

Mae'r ganolfan yn rhan o fuddsoddiad o £22.5m a gyhoeddwyd heddiw, fydd yn trawsffurfio sut mae'r DU yn rheoli economi gwastraff ac adnoddau'r wlad - yn fwy penodol, yn y diwydiannau tecstilau, adeiladu, cemegol a metel.

Bydd pump o Ganolfannau Economi Cylchol Aml-ddisgyblaethol Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) yn cael eu sefydlu i fwrw'r targedau hyn.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.