Astudiaeth newydd yn datgelu mewnwelediad i niwed 'sylweddol' y mae modd ei osgoi ym maes gofal sylfaenol
11 Tachwedd 2020
Mae astudiaeth genedlaethol yn Lloegr wedi datgelu graddfa'r achosion o niwed sylweddol y mae modd ei osgoi ym maes gofal sylfaenol.
Bu i 13 o feddygon teulu adolygu nodiadau achos dros 90,000 o gleifion mewn tair rhanbarth yn Lloegr dros gyfnod o 12 mis yn rhan o'r astudiaeth.
Daethant i'r casgliad mai'r prif achosion o niwed y mae modd ei osgoi oedd camgymeriadau diagnostig (mwy na 60%), achosion meddyginiaeth (mwy na 25%) ac atgyfeiriadau gafodd eu gohirio (bron 11%), a gallai 80% o'r achosion fod wedi cael eu canfod yn gynt neu eu hatal yn gyfan gwbl pe byddai unrhyw weithredu.
Pan ystyriwyd y canlyniadau o ran poblogaeth Lloegr i gyd, amcangyfrifodd yr ymchwilwyr y byddai hyd at 32,000 o achosion o niwed sylweddol y mae modd ei osgoi i gleifion ar gyfartaledd bob blwyddyn.
Mae'r ymchwil, gafodd ei hariannu gan Raglen Ymchwil Polisi'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd, wedi'i chyhoeddi heddiw yng nghyfnodolyn Ansawdd a Diogelwch BMJ.
Gweithiodd meddyg teulu o'r enw Dr Andrew Carson-Stevens, darllenwr clinigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, ac arbenigwr ar ddiogelwch cleifion, ar yr astudiaeth.
"Gellid osgoi'r rhan fwyaf o'r achosion hyn o niwed sylweddol mewn practis cyffredinol drwy wella systemau gweinyddol sy'n sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol gofal iechyd atgyfeirio at wasanaeth neu glinigwr arall yn ddibynadwy, adolygu a gweithredu ar ganlyniadau profion, monitro a galw cleifion nad ydynt yn mynychu archwiliadau pwysig yn ôl, a chyfathrebu'n eglur gyda chlinigwyr eraill sydd ynghlwm wrth ofal eu cleifion", meddai Dr Carson-Stevens, sydd hefyd yn arweinydd ymchwil diogelwch cleifion yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys.
Mae'r ymchwil yn un o'r astudiaethau mwyaf a mwyaf cynhwysfawr o ran niwed y mae modd ei osgoi ym maes gofal sylfaenol hyd heddiw. Gallai achos o niwed y mae modd ei osgoi fod yn broblem o ran diagnosis, megis oedi neu ddiagnosis anghywir neu broblemau gyda meddyginiaeth, megis camgymeriad o ran presgripsiwn neu gamgymeriadau monitro.
Nododd yr ymchwilwyr sawl ffactor oedd yn cyfrannu at y niwed, gan gynnwys ffactorau sefydliadol, clinigol a ffactorau cleifion, megis sawl problem iechyd, gan gynnwys gwendidau.
Roedd Dr Carson-Stevens a'i Grŵp Ymchwil Diogelwch Cleifion (PISA) yn gyfrifol am ddiffinio achos o niwed sylweddol y mae modd ei osgoi at ddiben yr astudiaeth hon.
Yna, defnyddiodd yr astudiaeth ddulliau'r Grŵp PISA, sydd â bri rhyngwladol, o ran archwilio a dysgu o achosion o niwed y mae modd ei osgoi yn ymwneud â gofal iechyd. Hyfforddodd y grwp ymchwil feddygon teulu i adolygu cofnodion meddygol electronig ac adnabod tystiolaeth o ofal anniogel o bosibl, ac roedd tîm Caerdydd yn gyfrifol am adnabod a dysgu o bob achos o niwed yr oedd modd ei osgoi.
Arweiniwyd yr ymchwil gan Ganolfan Ymchwil Trosiannol Diogelwch Cleifion Manceinion Fwyaf NIHR (GM PSTRC), partneriaeth rhwng Prifysgol Manceinion ac Ysbyty Brenhinol Salford, ar y cyd â Phrifysgol Nottingham. Cyflawnwyd yr ymchwil yn 2015/16.
Dywedodd Tony Avery, Athro Gofal Iechyd Sylfaenol ym Mhrifysgol Nottingham: "Ni allwn obeithio taclo'r broblem hon heb ddeall faint o achosion sy'n digwydd.
"Mae'r pandemig COVID-19 wedi newid y ffordd y mae gofal sylfaenol yn gweithio, gan olygu bod ein hargymhellion hyd yn oed yn fwy perthnasol mewn byd pan nad yw ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn bosibl bob tro."
Argymhellodd yr ymchwilwyr y dylid gwella parhad gofal i gleifion ym maes gofal sylfaenol, yn benodol pobl hŷn a'r rheiny gyda sawl cyflwr iechyd hirdymor, ac adnabod a hyrwyddo ffyrdd y gellid defnyddio TG i fynd ar ôl rhai o'r gwelliannau hyn.
Mae poblogaeth Lloegr yn fwy na 55 miliwn, ac mae dros 300 miliwn o ymgynghoriadau meddygaeth deuluol bob blwyddyn.
Dywedodd yr Athro Avery: "Mae'n hanfodol ein bod ni'n rhoi'r ymchwil hon yn ei chyd-destun a chofio, ar gyfer 97% o gleifion sy'n cyflwyno gyda phroblemau iechyd sylweddol, does dim tystiolaeth bod gofal sylfaenol wedi cyfrannu at yr achos."