Coastal Communities Adapting Together (CCAT): Exchanging Knowledge and Best Practice across borders
9 Tachwedd 2020
Mae’r newid hinsoddol yn effeithio’n uniongyrchol ar Fôr Iwerddon a’i gymunedau arfordirol ac mae angen iddynt ymaddasu yn ôl y newid hwnnw. Bydd prosiect Cymunedau Arfordirol yn Ymaddasu Ynghyd (CCAT) yn dwyn ynghyd lunwyr polisïau, awdurdodau lleol, academyddion a chymunedau yn Iwerddon, Cymru a Lloegr i ledaenu gwybodaeth a’r arferion gorau ynghylch rheoli arfordiroedd.
Bydd Cyngor Sirol Fingal a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd ar y we yn rhad ac am ddim bob bore rhwng 17-19 Tachwedd 2020 i gynnig cyfle i ledaenu gwybodaeth a phrofiad yn ogystal â mireinio’r arferion gorau ym meysydd rheoli arfordiroedd, ymaddasu yn sgîl y newid hinsoddol a lleddfu effeithiau’r newid hwnnw.
“Er bod gan sawl gwlad strategaeth rheoli ei harfordir, mae Iwerddon heb lunio polisïau o’r fath eto. Mae rhaglen llywodraeth Iwerddon yn ymrwymo i gyflwyno polisi gwladol ynghylch erydu arfordirol a llifogydd o ganlyniad i’r newid hinsoddol. Bydd hynny’n hanfodol i’n cymunedau arfordirol am fod erydu a llifogydd yn effeithio’n fawr arnyn nhw yn barod,” Karen Foley, Uwch Swyddog dros Faterion CCAT a Phennaeth Pensaernïaeth Tirwedd Coleg Prifysgol Dulyn.
“A minnau’n cynrychioli etholaeth mae erydu arfordirol yn effeithio’n fawr arni ers rhai blynyddoedd, rwy’n deall y problemau difrifol a ddaw yn sgîl hynny. Rwy’n croesawu prosiect CCAT a fydd yn ein helpu i ddeall rhagor am oblygiadau’r newid hinsoddol i gymunedau arfordirol. Bydd gallu’r prosiect i’n helpu i ddeall rhagor o les i lunwyr polisïau a phobl eraill wrth drin a thrafod effeithiau’r newid hinsoddol dros y tymor hir. Hoffwn i ddymuno’r gorau i’r rhai fydd yn cymryd rhan mewn trafodaethau yn ystod y gynhadledd," Darragh O’Brien, Gweinidog Materion Tai, Llywodraeth Leol a Threftadaeth Iwerddon.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “All yr un wlad na llywodraeth ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb am ymateb i’r newid hinsoddol ar ei phen ei hun – yn arbennig rheoli arfordiroedd moroedd sy’n gyffredin inni.”
“Mae’n dda gyda fi glywed y bydd arbenigwyr o Gymru, Iwerddon a Lloegr yn gallu cwrdd ar gyfer cynhadledd CCAT, er gwaethaf y pandemig, ac ystyried ffyrdd o fynd i’r afael ag effeithiau’r newid hinsoddol ar ein harfordiroedd ar y cyd.”
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy’n ariannu rhan o’r prosiect trwy Raglen Cydweithredu Iwerddon a Chymru 2014-20 gyda phartneriaid yn Iwerddon (Cyngor Sirol Fingal, Coleg Prifysgol Dulyn a Choleg Prifysgol Corcaigh) a Chymru (Prifysgol Caerdydd, Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Phorthladd Aberdaugleddau).
Nod CCAT yw helpu cymunedau arfordirol Fingal a Sir Benfro i ddeall y newid hinsoddol yn eu hardaloedd a sut mae ymaddasu yn ei ôl. Mae’r prosiect yn ymgysylltu â chymunedau trwy gyfrwng realiti rhithwir ac estynedig, gêmau megis Minecraft ac adnoddau dysgu ar y we i helpu cymunedau i ddeall yn well sut mae’r newid hinsoddol yn effeithio ar eu hardaloedd fel y bydd modd meithrin rhagor o gadernid wrth ymdopi â’r effeithiau.
Dyma restr y siaradwyr a manylion cofrestru ar gyfer y gynhadledd: www.ccatproject.eu
Mae rhagor o wybodaeth gan Emma McKinley, Prifysgol Caerdydd.