Pennaeth Digidol Airbus yn cael Proffesoriaeth
6 Tachwedd 2020
Mae arbenigwr blaenllaw gydag Airbus ym maes diogelwch seibr-ddiogelwch wedi cael ei benodi’n athro gwadd anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dr Kevin Jones, Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth (CISO) Airbus, sy’n arwain rhaglen diogelwch digidol y cwmni. Mae’r meysydd o dan sylw yn cynnwys rheoli risg, pensaernïaeth dylunio, tîm coch, canfod ac ymateb, yn ogystal ag ymchwil ac arloesedd ym maes seibr-ddiogelwch.
Mae Dr Jones yn cael ei gydnabod fel un o hoelion wyth y diwydiant. Mae wedi cydweithio’n agos ag Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd i ddatblygu cryfder seibr-ddiogelwch cydnabyddedig y Brifysgol ym meysydd ymchwil, ac addysgu mewn partneriaeth â’r Athro Pete Burnap.
Fe wnaeth arbenigedd Dr Jones helpu Caerdydd ennill cydnabyddiaeth fel un o Ganolfannau Rhagoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seibr-ddiogelwch (ACE) y Ganolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Fel aelod gweithgar o Fwrdd Cynghorol Diwydiannol Seibr-ddiogelwch y Brifysgol, mae wedi llywio enw da cynyddol Caerdydd am arwain ymchwil seibr gymhwysol a helpu i ddefnyddio’r arbenigedd hwn yn rhan o gynhyrchion byd-eang Airbus.
Mae Dr John wedi chwarae rhan ganolog yn cryfhau’r bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Airbus. Mae wedi trefnu i Dîm Seibr-arloesedd Airbus gyflwyno darlithoedd ar y cyd, mentora, cynorthwyo prosiectau ac ariannu ysgoloriaethau ymchwil, gan sicrhau bod darpariaeth sgiliau seibr-ddiogelwch Prifysgol Caerdydd yn parhau i ddiwallu anghenion y diwydiant sy’n ehangu o hyd.
Dr Jones fydd yn cynnal y Gyfres Flynyddol o Ddarlithoedd am Faterion Seibr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r gyfres hon yn cynnwys siaradwyr blaenllaw o bob rhan o’r diwydiant a bydd yn atgyfnerthu cryfder seibr-ddiogelwch yn y rhanbarth. Bydd yn ddigwyddiad o bwys yng nghalendr ecosystem Cymru ac yn ymgysylltu â’r byd academaidd, diwydiant a’r Llywodraeth. Disgwylir i’r digwyddiad cyntaf gael ei gynnal yn rhithwir yn 2021.
Wrth groesawu ei benodiad fel athro gwadd, dywedodd Dr Jones: “Mae derbyn y broffesoriaeth anrhydeddus hon gan sefydliad uchel ei barch sydd â hanes cydnabyddedig o ragoriaeth ym maes seibr-ddiogelwch, yn anrhydedd enfawr i mi a fy nghydweithwyr yn Airbus. Dros flynyddoedd lawer o gydweithio, mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu i fod yn ganolfan ymchwil faenllaw ar gyfer dadansoddeg seibr-ddiogelwch yn ogystal â seibr-ddiogelwch sy’n canolbwyntio ar bobl. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r partneriaethau sydd gennym eisoes, gan ddod â safbwyntiau blaenllaw yn y diwydiant i’r Brifysgol a pharhau i wella ecosystem seibr-ddiogelwch yng Nghymru.”
Mae Dr Jones yn flaenllaw yng nghymuned ymchwil seibr-ddiogelwch. Mae wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau, yn meddu ar lu o batentau yn y maes, ac mae’n gweithio gyda’r gymuned ddiogelwch a byd busnes i roi’r rhaglenni diogelwch digidol gorau posibl ar waith.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae’n bleser gennym anrhydeddu Dr Jones drwy gyflwyno proffesoriaeth wadd iddo. Mae Dr Jones yn adnabyddus fel ffigwr blaengar a siaradwr cyhoeddus ym maes seibr-ddiogelwch, arloesedd ym maes diogelwch, gwarchod systemau lle mae diogelwch yn hanfodol, ac isadeiladd cenedlaethol hanfodol.”
Cafodd y penodiad ei gymeradwyo gan yr Athrawon Pete Burnap, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seibr-ddiogelwch Prifysgol Caerdydd, a Carsten Maple, Athro yn WMG a Rhag Is-Ganghellor, Prifysgol Warwick.
Meddai’r Athro Burnap: “Mae arbenigedd Dr Jones wedi bod yn werthfawr dros ben i’r Ysgol. Mae Kevin yn gefn mawr i ni ac wedi ein helpu i ddatblygu partneriaethau o bwys gyda diwydiant a llywodraeth. Roedd ei gefnogaeth, trwy Airbus, yn hanfodol er mwyn i ni gael cydnabyddiaeth fel un o Ganolfannau (ACE) y Ganolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae hefyd wedi neilltuo amser i addysgu yn y Brifysgol, sy’n wych i’r myfyrwyr o ystyried faint o brofiad ac arbenigedd sydd ganddo.”
Ychwanegodd yr Athro Maple: “Mae Kevin yn cael ei ystyried yn ffigwr uchel iawn ei barch gan lawer yn y byd academaidd, llywodraeth a diwydiant. Yn bersonol, mae gen i lawer iawn o barch ato ac rwy’n credu bod ganddo rôl unigryw sy’n cysylltu ymchwil academaidd a diwydiannol.”
Mae Airbus a Chaerdydd yn gweithio ar ystod o gynlluniau ar hyn o bryd, gan gynnwys:
● E-Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth tair blynedd - yn datblygu dulliau dysgu peiriannol cadarn ac esboniadwy er mwyn gwella alluoedd ym maes gweithrediadau seibr-ddiogelwch;
● Secondiad parhaus yr Athro Burnap yn Airbus i arwain Dealltwriaeth Artiffisial (AI) er mwyn arloesi ym maes seibr-ddiogelwch;
● Secondiad yr Athro Phil Morgan o’r Ysgol Seicoleg i arwain Rhaglen Airbus ar gyfer Cyflymu Seibr-ddiogelwch sy’n Canolbwyntio ar Bobl gyda NCSC ac ystod o bartneriaid.
● Ariannu ysgoloriaeth PhD mewn seibr-ddiogelwch