Rôl newydd i gefnogi ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
6 Tachwedd 2020
Mae rôl newydd wedi;i chyhoeddi i gefnogi ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae’r Athro Colin Dayan wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr y Swyddfa Ymchwil ar y Cyd, menter newydd rhwng y ddau sefydliad i gefnogi dull ar y cyd o ddatblygu a darparu ymchwil dynol.
“Bydd y rôl yn cefnogi ein holl staff i ddatblygu a chynnal portffolio ymchwil gan gynnwys, er enghraifft, datblygu cynigion astudio a cheisiadau grant, ehangu portffolio treialon masnachol ac adeiladu timau ymchwil cydweithredol rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd y Brifysgol,” yn ôl datganiad ar y cyd gan yr Athro Ian Weeks, Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, a Dr Stuart Walker, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
“Bydd arweinyddiaeth glinigol gryf yn hanfodol ar gyfer y fenter hon ac fel y cyfryw rydym mor hapus i gael rhywun mor uchel ei barch â Colin i’n harwain."
Cafodd yr Athro Dayan hyfforddiant meddygaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen, ac yn Ysbytai Guy a Chairing Cross yn Llundain, cyn cyflawni PhD yn Imiwnoleg Clefyd Graves. Cafodd ei benodi’n uwch-ddarlithydd ymgynghorol mewn meddygaeth (diabetes/endocrinoleg) ym Mhrifysgol Bryste yn 1995 a Phennaeth Ymchwil Glinigol yn Labordai Henry Wellcome ar gyfer Niwrowyddorau Integreiddiol ac Endocrinoleg ym Mryste yn 2002.
Yn 2010, cafodd ei benodi'n Gadeirydd Diabetes a Metaboledd Clinigol a Phennaeth Adran yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Bu’n Gyfarwyddwr Sefydliad Meddygaeth Foleciwlaidd ac Arbrofol o 2011 i 2015.
Mae'r Athro Dayan wedi bod yn Gadeirydd Cylch Mawr Ysbyty Athrofaol Cymru ers 2015 ac mae'n parhau i ymarfer meddygaeth fewnol acíwt ac mewn wardiau penodol. Ef yw'r arweinydd ar gyfer diabetes yn rhaglen trawsblannu pancreas gyfan Caerdydd ac mae'n parhau i ddilyn rhaglen ymchwil weithredol iawn wrth feithrin imiwnedd i Ddiabetes Math 1.
“Mae hwn yn gyfle hynod gyffrous i greu amgylchedd ymchwil clinigol yng Nghaerdydd sy’n gallu cystadlu ar lefel ryngwladol,” meddai.
“Bydd llwyddiant yn cynnig buddion i'n holl staff yn ogystal â'n cleifion.”
Bydd y rôl newydd yn swyddfeydd Glan y Llyn ar gampws Ysbyty Athrofaol Cymru a bydd yn cychwyn yn y flwyddyn newydd.