Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol
6 Tachwedd 2020
Academyddion o Brifysgol Caerdydd yn ennill Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Mae Dr Dayne Beccano-Kelly, a fydd yn ymuno â'r Ysgol Meddygaeth yn fuan, a Dr Jose Camacho Collados, o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, wedi ennill Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol (FLF) fel rhan o'r cynllun £900m sy'n cael ei redeg gan UKRI.
Nod y cynllun FLF yw meithrin cyflenwad cryf o ymchwilwyr talentog o gefndiroedd amrywiol a llwybrau gyrfa i sicrhau bod ymchwil ac arloesedd y DU yn parhau i fod o safon fyd-eang.
Bydd y gwobrau’n rhoi amser a hyblygrwydd i Dr Beccano-Kelly a Dr Camacho Collados ddatblygu eu hymchwil mewn dau faes gwahanol iawn, ond gyda nod cyffredin o fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn sy’n effeithio ar fywydau pawb.
Maent yn rhan o garfan o 101 o gymrodyr a ddewiswyd ym mhedwaredd rownd y cynllun, sy'n cynnwys ymchwilwyr ac arloeswyr o'r byd academaidd, busnes a diwydiant ledled y DU.
Mae Dr Beccano-Kelly, a fydd yn ymuno â’r Sefydliad Ymchwil Dementia yn y Brifysgol, yn ymchwilio i gamau cynharaf clefyd Parkinson a’r pethau sy’n mynd o chwith hyd yn oed cyn i’r arwyddion clinigol ymddangos gyntaf.
Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i ymuno â'r tîm eithriadol a chydweithredol yn y Sefydliad Ymchwil Dementia yng Nghaerdydd. Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu tîm i ymchwilio i niwroddirywiad ac i weithio gyda'r gymuned ymchwil i ddod o hyd i ffordd i’w wella. Rydw i wedi dyheu am hyn ers amser maith ac mae'r UKRI-FLF yn fy ngalluogi i wireddu hynny.”
Yn ogystal â'i hymchwil, mae Dr Beccano-Kelly yn angerddol dros godi ymwybyddiaeth o faterion gwyddonwyr du mewn STEM; y niferoedd anghymesur o isel sydd mewn gwahanol sectorau, a’r rhwystrau sy’n ein hwynebu.
“Rydw i’n credu po fwyaf o bobl sy'n cael eu hysbysu, a pho fwyaf o drafodaethau mae pobl yn cael ar y pwnc, yna po fwyaf o newid y gall ddigwydd nes i'r datrysiad gael ei normaleiddio ac nad yw'n broblem mwyach. Rwy'n gobeithio gallu gwneud popeth o fewn fy ngallu i gyfrannu at y datrysiad hwnnw," ychwanegodd Dr Beccano-Kelly.
Mae ymchwil Dr Camacho Collados ’yn canolbwyntio ar Brosesu Iaith Naturiol (NLP) a sut y gall cyfrifiaduron ddeall iaith.
Mae ei brif ffocws ar wella’r modelau NLP i allu eu dehongli'n well, casglu gwybodaeth berthynol a synnwyr cyffredin, a gwella amlieithrwydd, gyda chymwysiadau'n amrywio o fynd i'r afael â twyllwybodaeth i wella triniaethau iechyd meddwl.
Dywedodd Dr Camacho Collados "Mae’n fraint derbyn gwobr o'r fath; bydd yn fy ngalluogi i ddatblygu fy ymchwil ar Brosesu Iaith Naturiol (NLP) i lefel gwbl newydd.
Dywedodd yr Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Mae cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol yn cynnig cyllid cynaliadwy tymor hir i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i gefnogi pontio cyflym i arweinyddiaeth, sy’n cyd-fynd â chyflwyno ymchwil arloesol yn eu meysydd dewisol. Rwy'n llongyfarch Dayne a Jose yn ddiffuant ar eu llwyddiant ysgubol gyda'r cynllun hwn, ac yn eu croesawu i'n cymuned o gymrodyr y Brifysgol sy’n tyfu."
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn rhan o gonsortiwm mawr a fydd yn helpu i ddatblygu'r arweinwyr ymchwil ac arloesi’r dyfodol hyn drwy Rwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol.
Bydd y Rhwydwaith, dan arweiniad Prifysgol Caeredin, yn darparu hyfforddiant a datblygiad i 210 o Gymrodyr newydd a 40 o ymchwilwyr ac arloeswyr ar ddechrau eu gyrfa. Bydd y Brifysgol yn arwain y gwaith o drawsnewid diwylliannau ymchwil, cefnogi adolygu a mentora gan gymheiriaid, a byddwn hefyd yn ganolbwynt rhanbarthol i Gymru a De-orllewin Lloegr.
Meddai’r Athro Claire Gorrara, Deon Diwylliant ac Amgylchedd Ymchwil: “Yng Nghaerdydd, rydym wedi ymrwymo’n llawn i feithrin diwylliant ymchwil cynhwysol, creadigol a gonest. Bydd y cyfle hwn i weithio gyda Sefydliad Ymchwil y DU a chonsortiwm o brifysgolion blaenllaw yn ein galluogi i wella ein cefnogaeth ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yn y DU a’r tu hwnt.”