Mae ymchwil yn awgrymu bod ffyniant o ran adeiladu neolithig wedi arwain at mega-meingylchoedd yn cael eu hadeiladu ar raddfa fawr yn ne Prydain
5 Tachwedd 2020
Yn ôl astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, arweiniodd gweithgarwch adeiladu brys yn ystod 2500CC at strwythurau seremonïol enfawr yn ymddangos yn ne Prydain.
Defnyddiodd academyddion y dulliau gwyddonol diweddaraf i ail-archwilio gweddillion ‘mega-meingylch’ Mount Pleasant, ardal gynhanesyddol fawr wedi'i hamgáu, a leolir ychydig y tu allan i Dorchester yn Dorset. Hwn yw'r tro cyntaf rydym wedi cael dyddiadau cywir ar gyfer yr heneb Neolithig ddiweddar, bwysig hon ac mae'n cynnig mewnwelediadau newydd i'r cyflymder anhygoel y cafodd ei hadeiladu.
Y tu mewn i feingylch Mount Pleasant roedd ardal amgaeedig fawr â ffens yn ei hamgylchynu a heneb bren a charreg gonsentrig gymhleth. Ar ben y banc adeiladwyd tomen fawr. Mae'r dadansoddiad newydd yn dangos y cafodd pob un o'r elfennau gwahanol hyn eu cwblhau mewn llai na 125 o flynyddoedd – llawer llai o amser nag oedd pobl yn ei feddwl. Mae'r data'n dangos y cafodd y safle ei adeiladu tua 150 mlynedd yn unig cyn i bobl newydd gyrraedd o gyfandir Ewrop, a ddaeth â'r metelau cyntaf a gwahanol grochenwaith yn ogystal â syniadau newydd a chredoau crefyddol.
Mount Pleasant, a adeiladwyd tua 2500CC, yw un o bump mega-meingylch hysbys yn ne Lloegr o'r un cyfnod. Ymhlith y safleoedd eraill mae Marden, Waliau Durrington ger Côr y Cewri, Avebury, sydd i gyd yn Wiltshire a Knowlton yn Dorset. Adeiladwyd Côr y Cewri yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Roedd y meingylchoedd yn safleoedd seremonïol arwyddocaol lle'r oedd pobl siŵr o fod yn ymgynnull o hirbell ar gyfer gwleddoedd a defodau.
Dywedodd Susan Greaney, sy'n fyfyriwr PhD yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Mae'r dyddiadau newydd hyn wir yn ein helpu i ddeall y cyfnod 2,500 CC hollbwysig. Y darlun sy'n dod i'r amlwg yw mai cynnydd mawr yn y gweithgarwch adeiladu oedd yn gyfrifol am y henebau mawr a llafurus yn cael eu hadeiladu ledled de Lloegr, ac efallai ymhellach i ffwrdd.
“Byddai adeiladu Mount Pleasant wedi cynnwys nifer fawr o bobl – gan gloddio'r ffosydd enfawr gydag adnoddau syml fel ceibiau corn carw. Er i'r gwaith o adeiladu rhannau amrywiol gael eu cynnal mewn sawl cam, gyda chenedlaethau olynol yn gweithio i’w hadeiladu, cyflawnwyd yr holl waith o fewn ychydig dros ganrif."
Cymerodd ymchwilwyr samplau o ganfyddiadau a wnaed wrth gloddio ar y safle yn ystod 1970 ac fe'u curadwyd yn Amgueddfa Sir Dorset, gan gynnwys cyrn carw, darnau o siarcol ac esgyrn dynol. Roedd y samplau hyn yn defnyddio radiocarbon mewn labordai yn Rhydychen, Belfast, Glasgow a Zurich i gael amcangyfrifon cywir o ddyddiadau. Yna mireiniwyd y rhain a'u cyfuno gan ddefnyddio techneg ystadegol o'r enw dadansoddiad Bayesian. Galluogodd y dull hwn i'r tîm gyfuno'r dyddiadau â gwybodaeth o'r gwaith cloddio archeolegol megis cyd-destun, haen a deunydd pob sampl, i amcangyfrif dyddiad a threfn y gwaith adeiladu’n fwy manwl gywir.
Dywedodd Greaney: “Beth sydd ddim yn glir o hyd yw pam yr adeiladwyd yr henebion hyn yn y lle cyntaf. A oedd pobl yn adeiladu'r henebion hyn fel 'dathliad olaf' gan eu bod yn gallu gweld newid yn dod? Neu a wnaeth ymdrech a llafur adeiladu'r henebion hyn arwain at wrthryfel, a chwymp yn ffydd y bobl yn yr arweinwyr neu'r grefydd, a greodd wactod lle gallai pobl newydd ddod iddo o'r cyfandir? Mae rhan o'r heneb garreg ganolog ym Mount Pleasant yn ymddangos fel ei bod wedi’i thorri ar hyn o bryd – a gafodd ei dinistrio yn ystod amser o aflonyddwch?"
Meddai Dr Peter Marshall o Historic England: “Mae'r ymchwil hon yn dangos pwysigrwydd casgliadau archeolegol a storiwyd mewn amgueddfeydd. Er i'r safle gael ei gloddio yn ystod 1970-1, mae wedi bod yn bosibl serch hynny i fynd yn ôl i'r archif a defnyddio technegau gwyddonol newydd ar hen ddeunyddiau.
“Wrth i arferion archeolegol esblygu, ni ellir tanamcangyfrifo gwerth casgliadau hyn yr amgueddfeydd a'u pwysigrwydd ar gyfer cadwraeth hir dymor."
Cyhoeddir Tempo of a Mega-henge: A New Chronology for Mount Pleasant, Dorchester, Dorset, yn Proceedings of the Prehistoric Society ac i’w weld yma.