Gwobr Nodedig i Dr Pedro Faria Gomes
2 Tachwedd 2020
Mae cymdeithas hawliau perfformio Portiwgal Sociedade Portuguesa de Autores (SPA) wedi dyfarnu Prémio Autores 2020 yn y categori cerddoriaeth glasurol i Sonata ar gyfer piano a ffidil Dr Pedro Faria Gomes.
Dyfernir y wobr, a grëwyd yn 2010, yn flynyddol i gyfansoddwr neu berfformiwr y mae ei waith yn gyfraniad rhagorol i gerddoriaeth glasurol.
Comisiynwyd Sonata Faria gan Ddeuawd Dryads, Carla Santos a Saul Picado, a berfformiodd y darn am y tro cyntaf yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd ym mis Ebrill 2018. Yn ddiweddarach cafwyd première Portiwgaleg o’r darn yn 2019 yn Theatr Genedlaethol São Carlos gan y ddeuawd, a’i recordio ar gyfer albwm cyntaf o weithiau siambr Dr Faria, a ryddhawyd yn gynharach eleni ar label Naxos.
Dywedodd Dr Faria am y darn: “Mae Sonata wedi’i ysbrydoli gan y syniad o ffurf bwa, a sut mae’n adlewyrchu bywyd dynol. Mae'r darn wedi’i ysbrydoli gan ddau waith o’r ugeinfed ganrif: Stori fer Scott Fitzgerald The Curious Case of Benjamin Button a Sonata No.1 Prokofiev ar gyfer piano a ffidil. Mae elfennau cylchol ac ailadrodd amrywiol i'w gweld yn amlwg rhwng ac o fewn pob un o'r pedwar symudiad: mae ritornelli yn y cyntaf a'r pedwerydd, cantus firmus ailadroddus yn yr ail, a phalindromau yn y trydydd symudiad."
Mae beirniaid wedi rhoi canmoliaeth uchel i’r cyfansoddiad: Ysgrifennodd Kathodik, sydd wedi’i leoli yn yr Eidal, fod yr ail symudiad yn ‘hudo ag alawon cain lle mae nodau’n dod i’r amlwg, yn gywrain, fel adleisiau o gerddoriaeth werin ddychmygol’. Mae’r symudiadau allanol, ‘yn tynnu sylw at yr ymdeimlad o wewyr a natur anrhagweladwy sydd, serch hynny, â’i resymeg ei hun sy’n annirnadwy ond yn ddiamheuol.’
Sefydlwyd yr SPA ym 1925 ac mae'n un o sefydliadau celfyddydau mwyaf sefydledig Portiwgal. Mae Dr Pedro Faria Gomes yn ymuno â grŵp dethol o artistiaid nodedig sydd wedi derbyn Prémio Autores.