Sweipio i'r dde i helpu i fynd i'r afael â chlefyd yr ymennydd
2 Tachwedd 2020
Mae grŵp o staff a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi creu ap i helpu gwyddonwyr i ddidoli trwy filoedd o ddelweddau o sganiau ymennydd i'w defnyddio mewn astudiaethau ar raddfa fawr o glefyd yr ymennydd.
Mae’r ap, a alwyd yn NeuroSwipe, yn gydweithrediad gwyddoniaeth dinasyddion rhwng myfyrwyr yn Academi Meddalwedd Genedlaethol y Brifysgol ac academyddion yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).
Mae'r ap yn hyfforddi pobl nad ydynt yn wyddonwyr i ddod yn arbenigwyr ar gydnabod sganiau ymennydd a fyddai'n addas ar gyfer astudiaeth wyddonol, gan arbed amser gwerthfawr i ymchwilwyr o bosibl.
Fel rheol, bydd gwahanol ddelweddau yn cael eu creu o ymennydd unigolion sy'n ymwneud ag astudiaeth wyddonol. Am nifer o wahanol resymau, megis symud yn ormodol yn ystod sgan yr ymennydd, gall rhain amrywio o ran ansawdd a nid yw rhai’n darparu llun cywir a chlir.
Gyda'r astudiaeth fwyaf yn cynnwys cannoedd ar filoedd o bobl, mae cronfa enfawr o ddelweddau sydd angen eu gwirio gan arbenigwr hyfforddedig i sicrhau ansawdd data cyson cyn y gall y dadansoddiad gwyddonol ddechrau.
“Mae’r broses hidlo delweddau wedi’i awtomeiddio i raddau helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae hyfforddi rhaglen deallusrwydd artiffisial i ganfod sganiau o ansawdd gwael yn heriol,” meddai Dr Judith Harrison o CUBRIC, sy’n arwain ar y prosiect.
“Mae’r llygad dynol yn hynod o sensitif i wahaniaethau cynnil o ran maint, siâp, lliw ac ymddangosiad, felly dyna pam rydym eisiau i’r cyhoedd gymryd rhan.
Roedd Dr Harrison yn ddigon ffodus i allu galw ar arbenigedd myfyrwyr yn Academi Meddalwedd Genedlaethol y Brifysgol (NSA), canolfan ragoriaeth ar gyfer peirianneg meddalwedd lle mae'n ofynnol i fyfyrwyr weithio ar brosiectau sy’n canolbwyntio ar gleientiaid trwy gydol eu gradd.
Llwyddodd y myfyrwyr i adeiladu'r ap mewn dim ond 10 wythnos, gan dreulio amser gyda Dr Harrison yn labordai CUBRIC i ddeall yn llawn sut roedd sganio'r ymennydd yn gweithio a'r gofynion oedd eu hangen ar gyfer ap o'r fath.
Dywedodd Jack Light, myfyriwr o'r NSA a weithiodd ar y prosiect: “Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio ar y prosiect gyda CUBRIC. Roeddent yn gleient perffaith i weithio gyda nhw gan fod ganddynt ddarlun clir o’r hyn roeddent ei eisiau ond roeddent hefyd yn hapus i drafod a chymryd awgrymiadau.
“Roedd yn hynod fuddiol, trwy weithio ar y prosiect go iawn cefais y cyfle i ddod ar draws problemau na fyddwn fel arfer wedi eu profi mewn amgylchedd dysgu nodweddiadol. Hefyd cefais y cyfle i weithio ar brosiect o'i ddyluniad i'w integreiddio a'i weld yn cael ei ddefnyddio yn y byd go iawn."
Rydym wedi creu ap symudol ar y we. Mae pobl yn cael eu hyfforddi ar sut i wahaniaethu rhwng sganiau ymennydd ac yna gofynnir iddynt ddosbarthu delweddau a gyflwynir iddynt, gan sweipio i'r dde am 'ddelwedd dda' a'u gadael am 'ddelwedd wael' .
“Daw’r delweddau o sgan MRI tryledol, sy’n creu lluniau o’r ymennydd trwy ganfod symudiad moleciwlau dŵr sy’n teithio trwy acsonau - ffibrau nerfau pwysig. Rhain, sydd i bob pwrpas yn weirio’r ymennydd a sy’n cario gwybodaeth am ein hamgylchedd, ein horganau hanfodol a hyd yn oed ein hatgofion,” ychwanegodd Dr Harrison.
“Mae’r delweddau sy’n ymddangos ar yr ap ar hyn o bryd yn dod o astudiaeth yr ydym yn ei chynnal ar risgiau genetig clefyd Alzheimer.”
Mae pobl sy’n defnyddio’r ap yn chwilio am siâp cywir y bwa (fornix) - bwndel o ffibrau nerfau yn ddwfn yn yr ymennydd sy'n hanfodol ar gyfer storio atgofion newydd ac sy'n cael eu heffeithio yng nghlefyd Alzheimer cynnar.
“Ar hyn o bryd mae NeuroSwipe yng nghamau cynnar ei ddatblygiad ac mae'n brawf o gysyniad yn unig. Byddem wrth ein bodd pe bai’r cyhoedd yn cymryd rhan ac yn rhoi adborth i ni er mwyn i ni fireinio’r broses ac ehangu’r ap i'w ddefnyddio mewn astudiaethau ar raddfa fawr sy'n cynnwys miloedd o gleifion, ”meddai Dr Harrison.
Mae'r ap ar y we a gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais sydd â chyswllt i'r rhyngrwyd. Cynhaliodd yr ymchwilwyr weithdai yn CUBRIC ochr yn ochr â Diverse Cymru i sicrhau bod y prosiect mor gynhwysol â phosibl.
Dywedodd Shelagh Maher, Swyddog Ymgysylltu â Dinasyddion yn Diverse Cymru: “Roeddem yn falch iawn o gael cais i gyfrannu at y prosiect NeuroSwipe. Gyda'n profiad o weithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru i chwilio am amrywiaeth o wirfoddolwyr, gwnaethom helpu tîm Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) i ymgysylltu â grwpiau cymunedol ac ystyried sut i gyrraedd pobl ag anghenion ychwanegol a hefyd o gefndiroedd amrywiol.”
Dywedodd yr Athro Wendy Burn, seiciatrydd yr henoed a chyn-Lywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion: "Mae'r ap Neuroswipe yn enghraifft ardderchog ac arloesol iawn o ymgysylltu a chydweithio gyda'r cyhoedd.
"Mae wir angen ar feddygon ddealltwriaeth well o'r hyn sy'n digwydd yn yr ymennydd wrth i glefyd Alzheimer ddatblygu, a bydd y fenter wych hon yn helpu i fwrw ymlaen ag ymchwil CUBRIC yn y maes."
Deilliodd cyllid ar gyfer yr ap o Gronfa Cymorth Strategol Sefydliadol Ymddiriedolaeth Wellcome (ISSF) a ddyfarnwyd i Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
Mae'r ap, ynghyd â mwy o fanylion am y prosiect, i'w gweld yma.