Athro Cyfraith Eglwysig yn siarad mewn digwyddiad Cadeiriol blynyddol
30 Hydref 2020
Y mis Medi hwn, gwahoddwyd yr Athro Norman Doe i Dyddewi i gyflwyno Darlith Flynyddol Ffrindiau Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Teitl darlith yr Athro Doe oedd 'Liberals, Loggerheads and Law – Welsh Disestablishment remembered' a chafodd ei chynnal yn yr eglwys gadeiriol ar 12 Medi 2020. Roedd y ddarlith yn cynnwys hanes yr Eglwys yng Nghymru drwy gydol y cyfnodau Canoloesol a'r Diwygiad hyd at yr ymgyrchoedd datgysylltu gwleidyddol a chrefyddol yn y bedwared ganrif ar bymtheg; y frwydr ddeddfwriaethol a arweiniodd at Ddeddf Eglwysi Cymru 1914 a oedd yn sail i'r datgysylltu a sylfaen Eglwys ar wahân yng Nghymru ym 1920; a pharhad a newid yng ngweinyddiaeth yr Eglwys yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 oedd ar waith ar y pryd, cyflwynwyd y ddarlith yn yr adeilad canoloesol hyfryd gyda digonedd o le rhwng aelodau'r gynulleidfa a eisteddai yng nghorff yr eglwys.
Roedd yr Eglwys Gadeiriol wedi cydnabod na allai llawer o bobl fod yn bresennol yn y ddarlith yn gorfforol, ac o ganlyniad i hyn trefnwyd i'r digwyddiad gael ei ffrydio'n fyw drwy Facebook. Mae'r Eglwys Gadeiriol wrth ei bodd gyda'r ymateb i'r fideo sydd wedi denu mwy na 1.5k o bobl i'w wylio, ac felly roedd mwy o bobl yn 'bresennol' yn Nghyfarfod Blynyddol hwnnw y Ffrindiau nag erioed o'r blaen.
Wrth dreulio amser yn Nhyddewi, rhannodd yr Athro Doe ei arbenigedd mewn sgwrs am un o'r llyfrau hynaf yn llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol, argraffiad 1505 o Provinciale gan William Lyndwood (1433), llyfr sydd wedi dylanwadu ar gyfraith eglwysig ym mhob canrif ers hynny. Ffilmiwyd trafodaethau'r Athro Doe am y llyfr fel rhan o Wythnos Llyfrgelloedd a gynhaliwyd rhwng 5 a 9 Hydref a gellir eu gweld ar sianel YouTube yr Eglwys Gadeiriol.
Wrth siarad am ei ymweliad â Thyddewi, dywedodd yr Athro Doe, "Roedd yn anrhydedd cael gwahoddiad i siarad yn narlith flynyddol Tyddewi yn enwedig ar adeg pan mae gallu treulio amser gyda'n gilydd yn rhywbeth prin ac arbennig iawn. Roedd hefyd yn addas iawn gallu dathlu canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru yn y ffordd hon yn yr eglwys gadeiriol ysbrydoledig hon gyda'i holl gysylltiadau cyfoethog a hynafol â Nawddsant Cymru. Rwyf yn edrych ymlaen yn frwdfrydig iawn at gydweithrediadau pellach rhwng Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd, ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn y blynyddoedd sydd i ddod, yn enwedig er mwyn gwella gwybodaeth am y trysorau a gedwir yn llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol."
Mae A New History of The Church in Wales, a olygwyd gan yr Athro Doe ar gael i'w brynu o Wasg Prifysgol Caergrawnt neu drwy ebostio Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi.