Dychmygu dyfodol systemau bwyd yn Ninas-ranbarth Caerdydd
29 Hydref 2020
Digwyddiad ar-lein i drafod dyfodol Systemau Bwyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd, bydd y bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael y cyfle i gyfrannu at drafodaeth ynghylch dyfodol systemau bwyd drwy gymryd rhan yn y digwyddiad ar-lein 'O'r Fferm i'r Fforc'.
Mewn partneriaeth â Bwyd Caerdydd, caiff y digwyddiad ei hwyluso gan ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd ac mae'n rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC 2020.
Mae’r digwyddiad ar-lein hwn yn adeiladu ar nifer o Gynulliadau’r Werin ar fwyd a ffermio a gynhaliwyd ledled Cymru ers dechrau’r cyfnod clo. Ymateb i alwadau am gyfranogiad cyhoeddus, ei nod hefyd yw creu lle ar gyfer deialog gyhoeddus. Pobl o ranbarth dinas Caerdydd – sy'n cynnwys deg awdurdod lleol: Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; a Bro Morgannwg. Bydd canfyddiadau o'r digwyddiad yn llywio Strategaeth Fwyd Bwyd Caerdydd a pholisïau bwyd lleol eraill.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd â diddordeb yn nyfodol systemau bwyd," meddai Pearl Costello, Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy'r Ddinas dros Bwyd Caerdydd.
“Drwy ddigwyddiadau megis 'O'r Fferm i'r Fforc' mae gennym y cyfle bellach i ystyried ein hamcanion hirdymor a sicrhau y caiff bwyd da ei ddefnyddio ar draws rhanbarth y ddinas."
Bydd cynhyrchwyr bwyd lleol hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan edrych ar y newidiadau sydd angen digwydd er mwyn helpu i ddatblygu system fwyd yn y dyfodol sy'n gweithio ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Os hoffech ymuno â'r drafodaeth a helpu i lywio dyfodol systemau bwyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cadwch eich lle ar y digwyddiad 'O'r Fferm i'r Fforc'.