Dulliau newydd o ysbrydoli plant gyda ffiseg yn ennill gwobr i wyddonydd o Gaerdydd
27 Hydref 2020
Dyfarnwyd Medal Lise Meitner y Sefydliad Ffiseg i Dr Edward Gomez o Brifysgol Caerdydd am ei 'gyfraniad sylweddol i ymgysylltu â ffiseg a chodi dyheadau plant'.
Mae Medal Lise Meitner yn bodoli fel rhan o Fedalau Pwnc Arian y Sefydliad Ffiseg, sy'n 'cydnabod a gwobrwyo cyfraniadau nodedig i ffiseg'.
Cipiodd Dr Gomez, sy'n ddarlithydd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, y wobr am ei waith anhygoel yn rhychwantu darlithoedd cyhoeddus, llyfrau gwyddonol comig a chreu adnoddau arloesol i ddosbarthiadau ar draws y byd.
Dywed, "rhannu fy angerdd am wyddoniaeth ac ysbrydoli eraill, yn enwedig mewn cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, yw un o elfennau mwyaf llawen fy swydd. Mae'n wych cael y math hwn o gydnabyddiaeth gan y Sefydliad Ffiseg."
Mae'n hawdd gweld pam y cododd Dr Gomez i'r brig yn y categori hwn. Fel eiriolwr angerddol dros wneud 'ffiseg yn hygyrch i bawb', mae'n defnyddio astroffiseg i ennyn diddordeb a brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf, gyda llu o ymdrechion ysbrydoledig.
Mae llawer o'r adnoddau addysg mae wedi'u datblygu i godi dyheadau plant wedi ennill gwobrau. Mae hyn yn cynnwys creu adnodd sy'n edrych ar ffiseg y sêr, a chanmolwyd ei waith sylfaenol am helpu disgyblion i ddatblygu llythrennedd digidol yn ifanc iawn.
Drwy arwain rhaglen Global Sky Partners, mae wedi ffurfio partneriaethau addysgol mewn dros 30 o wledydd i gynorthwyo plant, athrawon a'r cyhoedd i ddefnyddio rhwydwaith byd-eang Arsyllfa Las Cumbres o delesgopau robotig. Mae Global Sky Partners yn mentora myfyrwyr ar gyfer ymchwiliadau gwyddonol o ansawdd cyhoeddi, cyrsiau a gweithdai hyfforddi athrawon, a phrosiectau gwyddonol i ddinasyddion.
Mae'r cyflawniadau nodedig hyn wedi sicrhau cyllid cenedlaethol a rhyngwladol i arwain prosiectau sy'n cyrraedd cannoedd o filoedd, gyda chyfanswm rhyfeddol o 700K o bobl yn cyrchu adnoddau addysgol a grëwyd gan Gomez bob blwyddyn.
Gan ddangos dyfeisgarwch parhaol, mae Gomez wedi creu llyfrau comig Ada’s Adventures in Science sy'n ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu potensial drwy roi hyder hollbwysig iddyn nhw gyfranogi drwy holi cwestiynau. Anfonwyd dros 15K o gomics yn fyd-eang ac yn sgil eu poblogrwydd fe’u cyfieithwyd i 5 iaith.
Gan fanteisio ar ei ddawn fel siaradwr difyr, mae Gomez wedi traddodi cannoedd o ddarlithoedd cyhoeddus, ac mae'n ymddangos yn aml ar raglenni radio ac mewn gwyliau gwyddonol. Ar ôl ysgrifennu Jack Photon i IOP Physics Storytelling, mae wedi cyflwyno'r gwaith yn y DU ac UDA ac wedi cyflwyno ei sgwrs Science of Doctor Who i filoedd o bobl yn fyd-eang.
Fel rhan o'i ymgyrch dygn i wneud ffiseg yn hygyrch i bawb, mae Gomez wedi arwain rhaglenni â'r nod o ddod â gwyddoniaeth i blant difreintiedig, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb BME a rhywedd. Un rhaglen hynod lwyddiannus o'r fath yw Y Bydysawd yn y Dosbarth, y bu’n ei chyd-arwain gan weithio gyda 150 o ysgolion cynradd mewn 6 sir, hyfforddi 150 o athrawon a chael effaith ar dros 8K o ddisgyblion.
Fel arwydd o'i arweinyddiaeth sylweddol yn ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf, mae'n cadeirio tasglu addysg yn Swyddfa Seryddiaeth er Datblygu yr Undeb Seryddiaeth Ryngwladol, sy'n edrych ar 'archwilio'r Bydysawd er budd y ddynoliaeth' ac sy’n ystyried 'seryddiaeth ar gyfer byd gwell.'
Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i Dr Gomez am ennill y wobr hon a dymunwn lwyddiant parhaus iddo gyda'i waith gwerthfawr.