Ffarwelio â chydweithwyr profiadol
26 Hydref 2020
Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) wedi ffarwelio â Tim Holmes a Duncan Bloy sy'n ymddeol.
Mae Tim, a gafodd ei ddyrchafu i fod yn Ddarllenydd yn ddiweddar, yn ymddeol ar ôl bron i 25 mlynedd o addysgu newyddiaduraeth ôl-raddedig.
Yn fuan ar ôl ymuno â'r Ysgol, cymerodd Tim ymlaen y Diploma mewn Newyddiaduraeth Cylchgronau (sydd bellach yn gwrs Meistr). Mewn partneriaeth â Jane Bentley a chydweithwyr eraill, fe'i datblygodd i fod y diploma mwyaf llwyddiannus yn y wlad gan dderbyn nifer eithriadol o wobrau gan y Gymdeithas Cyhoeddwyr Proffesiynol.
Dysgodd Tim gannoedd o bobl sydd bellach yn gweithio y diwydiant, gyda llawer ohonynt yn ei gofio gyda pharch ac anwyldeb mawr. Sefydlodd hefyd gyfres cynhadledd fyd-eang Mapping the Magazine.
Mae cysylltiad Duncan â’r Ysgol yn ymestyn yn ôl ymhellach fyth, ers diwedd y 1980au, pan gytunodd i dreulio dwy awr bob nos Fercher i weithio gyda newyddiadurwyr dan hyfforddiant yn y Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth, fel y’i gelwir ar y pryd. Maes o law, cafodd ei benodi’n gyfreithiwr mewnol cyntaf yr Ysgol.
Ar ben hynny, helpodd Duncan gyda phartneriaethau rhyngwladol yr Ysgol. Fe aeth y gwaith hwn ag ef i lawer o wledydd, gan gynnwys i India lle helpodd ef a Tim i sefydlu partneriaeth yr Ysgol â Choleg Newyddiaduraeth Asiaidd (ACJ).
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Stuart Allan, “Gwnaeth Tim a Duncan gyfraniadau mawr i lwyddiannau JOMEC dros y blynyddoedd.
“Gwerthfawrogwyd eu hymrwymiad ymroddedig i addysgu arloesol, eu brwdfrydedd angerddol ynghylch ysgolheictod, a’u hymdrechion i lunio mentrau cwricwlwm newydd yn fawr iawn gan gydweithwyr a myfyrwyr fel ei gilydd.
“Mae pawb yn JOMEC yn dymuno ymddeoliadau haeddiannol i’r ddau ohonyn nhw.”