Gwobr ‘Arwr Iechyd Llygaid’ i fyfyriwr PhD
26 Hydref 2020
Myfyriwr PhD Gwyddorau’r Golwg, Nikita Thomas, wedi derbyn Gwobr ‘Arwr Iechyd Llygaid’ am ei gwaith rhagorol yn datblygu dyfais profi maes gweledol ar gyfer pobl â nystagmus.
Cyflwynwyd y wobr gan yr Asiantaeth Ryngwladol i Atal Dallineb (IAPB) a lansiodd y fenter Arwr Iechyd Llygaid yn 2012 i gydnabod staff rheng flaen y gwnaeth eu gwaith wahaniaeth go iawn wrth adfer golwg ledled y byd.
O’r tri chategori, cafodd Nikita ei chydnabod yn y categori Arloeswr, lle mae ymgeiswyr yn ‘cofleidio syniadau newydd, yn creu posibiliadau newydd ac yn gwthio ffiniau gwybodaeth’.
Mae darganfyddiad rhyfeddol Nikita, dyfais profi maes gweledol, a elwir hefyd yn Berimedr, nid yn unig o fudd i'r rheiny â nystagmus, ond mae hefyd yn hwyluso profion maes gweledol yn yr henoed, cleifion ifanc iawn, a'r rheini ag anableddau dysgu sydd fel arfer yn cael anhawster i syllu yn sefydlog ar darged.
Wrth drafod y wobr, dywedodd Nikita: “Mae'n anrhydedd mawr ennill y wobr hon a bod y gwaith caled yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae'n bwysig ein bod yn ymdrechu i wella'r dulliau clinigol presennol i'w gwneud yn berthnasol i bob claf, gan gynnwys y rhai â nystagmus. Mae'r wobr hon yn gosod sylfaen wych i ni barhau i ddatblygu ein dyfais, gyda'r nod o'i gael yn y clinig yn y dyfodol."
Dywedodd Goruchwyliwr PhD Nikita, Dr Matt Dunn: “Mae Nikita wedi dangos dawn ryfeddol ar gyfer gwyddorau’r golwg, gan feistroli’n gyflym y sgiliau sy’n angenrheidiol i ymchwilydd annibynnol. Bydd ei gwaith yn sicr o gael effaith sylweddol ar ddarparu gofal llygaid clinigol a'n dealltwriaeth o ddatblygiad y system weledol ddynol. "