Astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ar ddefnydd o wrthfiotigau yn ennill papur ymchwil y flwyddyn
23 Hydref 2020
Mae astudiaeth ar y defnydd o wrthfiotigau dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen a Choleg y Brenin Llundain wedi ennill papur ymchwil y flwyddyn.
Daeth yr astudiaeth, dan arweiniad Canolfan Treialon Ymchwil ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, i'r casgliad y gallai prawf gwaed pigiad bys syml helpu i atal rhoi presgripsiynau gwrthfiotigau diangen i gleifion gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.
Cyhoeddwyd 'C-reactive Protein guided antibiotic prescribing for COPD exacerbations' yn New England Journal of Medicine fis Gorffennaf diwethaf, ac mae bellach weni ennill y wobr ymchwil glinigol cyffredinol yn 2019 gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu (CBMT).
Dywedodd yr Athro Nick Francis, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd gynt ac nawr o Brifysgol Southampton: “Mae llywodraethau, comisiynwyr, clinigwyr a chleifion sy’n byw gyda COPD ar draws y byd yn mynd ati ar fyrder i chwilio am ffyrdd o’u helpu i wybod pryd mae hi’n ddiogel atal gwrthfiotigau a chanolbwyntio ar ddefnyddio triniaethau eraill er mwyn trin achosion o’r cyflwr.
“Ystyrir bod y cleifion yn wynebu risg uchel os nad ydynt yn cael gwrthfiotigau. Ond, fe lwyddon ni i sicrhau gostyngiad yn y nifer sy’n defnyddio gwrthfiotigau, ac mae hyn tua dwywaith cymaint â’r hyn a gyflawnwyd gan ymyriadau stiwardiaeth gwrthficrobaidd, gan ddangos bod hyn yn ddull diogel.”
Dywedodd yr Athro Chris Butler, cyn-athro meddygaeth gofal sylfaenol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r treial clinigol trylwyr hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â’r ystyriaethau dybryd canlynol; cadw budd ein gwrthfiotigau presennol; potensial gofal haenedig a mwy personol; pwysigrwydd tystiolaeth gyd-destunol addas am brofion pwynt gofal wrth leihau defnydd diangen o wrthfiotigau, a; gwella ansawdd gofal ar gyfer pobl sydd â chyflwr cyffredin clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint."
Mae'r academyddion wnaeth arwain yr astudiaeth wedi gofyn i'r CBMT roi'r wobr o £1,000 i Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint er cof am Margaret Barnard, cynrychiolydd cleifion yn yr astudiaeth a fu farw o ganser yr ysgyfaint cyn i'r ymchwil ddod i ben. Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod yn awyddus i gydnabod ei chyfraniad gwerthfawr hi, a'r cyfranwyr cyhoeddus eraill yn ei wneud, ac hefyd ei hangerdd dros yr astudiaeth.
Dangosodd yr astudiaeth bod prawf gwaed pigiad bys ar gyfer protein C-adweithiol yn arwain at 20% yn llai o bobl yn defnyddio gwrthfiotigau ar gyfer COPD.
Mae dros filiwn o bobl yn y DU wedi'u heffeithio gan COPD, sef cyflwr ar yr ysgyfaint sy'n gysylltiedig ag ysmygu a llygryddion amgylcheddol eraill. Mae pobl sy'n byw gyda'r cyflwr yn aml yn cael pyliau sy'n arwain at 3 allan o 4 yn cael presgripsiwn o wrthfiotigau - ond nid yw dau draean o'r rhain yn cael eu hachosi gan heintiau bacteriol, ac felly nid yw gwrthfiotigau'n gweithio yn yr achosion hyn.
Mae’r prawf pigiad bys yn mesur protein C-adweithiol (CRP). Dynodwr llid yw hwn sy’n codi yn gyflym yn y gwaed mewn ymateb i heintiau difrifol - i lywio'r broses o gael presgripsiwn o wrthfiotigau.
Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn golygu ei bod hi'n anoddach trin heintiau, wrth i facteria esblygu er mwyn amddiffyn eu hunain. Ystyrir ymwrthedd i wrthfiotigau yn fygythiad byd-eang brys - ac mae lleihau'r defnydd o driniaethau o'r fath yn allweddol o ran taclo'r broblem.
Dywedodd yr Athro Butler: “Caiff y rhan fwyaf o wrthfiotigau eu rhagnodi mewn gofal meddygol sylfaenol, ac nid yw llawer o’r presgripsiynau hyn o fudd i gleifion: mae profion pwynt gofal yn cael eu hyrwyddo’n gadarn fel ateb allweddol ar gyfer targedu rhagnodi gwrthfiotigau’n well.
"Fodd bynnag, ychydig iawn o dreialon profion pwynt gofal sydd wedi’u cynnal i fesur yr ffaith ar ymddygiad clinigwyr, ymddygiad claf a deilliannau i gleifion. Pyliau gwael o glefyd cronig yr ysgyfaint sy’n gyfrifol am gyfran sylweddol o ddefnydd diangen o gwrthfiotigau, ond nid oes ateb da wedi’i ganfod hyd yma i’r broblem mewn triniaeth i gleifion allanol (pan ragnodir y rhan fwyaf o wrthfiotigau). Ein treial yw’r cyntaf o dan reolaeth biofarcwyr AECOPD mewn gofal i gleifion allanol, ac mae wedi dod o hyd i effaith a ddylai weddnewid arferion.
"Rydym wrth gwrs yn falch iawn dros y prifysgolion sydd ynghlwm (Caerdydd, Coleg y Brenin a Rhydychen), Rhaglen Asesu Technoleg Ymchwil Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol Iechyd wnaeth ariannu'r astudiaeth, Rhwydwaith Ymchwil Clinigol NIHR ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
“Hoffem ddiolch i'r meddygfeydd wnaeth weithredu'r treial, a'r tua 600 o gleifion wnaeth roi o'u hamser a'u data i weithredu'r astudiaeth a chreu'r canfyddiadau, yn ogystal â'r cyfranwyr cyhoeddus wnaeth helpu gyda dylunio a rhannu. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth ardderchog hon gan CBMT am ymdrech tîm anhygoel gan ymchwil gofal sylfaenol y DU."