Out of the shadow of the father
22 Hydref 2020
Cyfrol newydd yn archwilio un o gyfnodau’r Ymerodraeth Rufeinig sydd heb ei werthfawrogi'n fawr
Mae Haneswyr yr Henfyd yng Nghaerdydd yn olygyddion cyfrol newydd ar gyfnod o'r Ymerodraeth Rufeinig a anghofir yn aml.
Mae Dr Nicholas Baker-Brian, Darllenydd mewn Crefyddau Hynafol a Shaun Tougher, Athro Hanes Bysantaidd a Rhufeinig Diweddar wedi dwyn ynghyd y gyfrol newydd sy'n cynnwys tri ar ddeg o academyddion o'r DU a thramor.
Mae The Sons of Constantine, AD 337-361: In the Shadows of Constantine and Julian
yn canolbwyntio ar yr ymerodraeth Rufeinig o dan deyrnasiadau brodyr: Cystennin (Constantine) II (337-340), Constans I (337-350) a Constantius II (337-361), yn dilyn marwolaeth yr ymerawdwr Rhufeinig Cristnogol cyntaf. Fe'u olynwyd gan eu cefnder Iwlian, yr ymerawdwr paganaidd Rhufeinig olaf.
Mae'r casgliad yn taflu goleuni ar etifeddion Cystennin fel gwarcheidwaid ei etifeddiaeth, a oruchwyliodd natur y byd y byddai Iwlian (Julian) yn tyfu i fyny ynddo, ac yn archwilio eu dylanwad ar agweddau imperialaidd, gweinyddol, diwylliannol a chrefyddol yr ymerodraeth yn eu rhinwedd eu hunain.
Mae'r golygyddion yn esbonio:
“Mae’r sylw a roddwyd i’r ymerawdwyr Rhufeinig Cystennin Fawr a Iwlian y Gwrthgiliwr wedi golygu bod teyrnasiadau Cystennin II, Constantius II a Constans wedi’u bwrw i’r cysgod. Mae hyn wedi rhwystro dealltwriaeth o deyrnasiadau meibion Cystennin, ond mae hefyd wedi atal gwerthfawrogiad llawnach o etifeddiaeth ymerodrol Cystennin ei hun a’r cyd-destun uniongyrchol ar gyfer y penderfyniadau a wnaeth Iwlian yn ystod ei deyrnasiad. Nod y gyfrol hon yw datgelu arwyddocâd hanesyddol y pedair blynedd ar hugain rhwng y ddau gawr ymerodrol, a rhoi gwell dealltwriaeth o ddigwyddiadau'r bedwaredd ganrif in toto.”
Lansiwyd y llyfr â thrafodaeth a sesiwn holi ac ateb rhithwir gyda'r cyfranwyr ar 26 Hydref 2020.
MaeThe Sons of Constantine: In the Shadows of Constantine and Julian yn rhan o gyfres New Approaches to Byzantine History and Culture Palgrave Macmillan.